Chwilio'r wefan
English

Catfish and the Bottlemen i berfformio i gynulleidfa o 20,000 o bobl yn Abertawe

Bydd Parc Singleton Abertawe yn croesawu 20,000 o bobl sy'n dwlu ar gerddoriaeth yr haf nesaf wrth i Catfish and the Bottlemen berfformio ar y llwyfan.

CatfishAnnounce

Y sêr byd-eang fydd y brif act ar yr un diwrnod â pherfformwyr eraill sy'n cynnwys y band roc/pync-pop, You Me At Six, y band roc o Gymru, Feeder a'r band pop roc tywyll, Yonaka.

Bydd Cyngor Abertawe, sy'n rheoli'r parc, yn adeiladu'r safle ar ran yr hyrwyddwr fel a wnaed gyda'r perfformiadau blaenorol ar y safle.

Meddai Tracey McNulty, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol, y cyngor,"Mae'r digwyddiad hwn yn newyddion gwych i Abertawe."

Mae digwyddiadau mawr eraill y ddinas ar gyfer yr haf yn cynnwys Sioe Awyr Cymru a Hanner Marathon Abertawe.

Bydd y band 4 aelod, Catfish and the Bottlemen, yn perfformio ym Mharc Singleton, Abertawe, ddydd Sadwrn 23 Mai.

Bydd y tocynnau ar werth i bawb o 10am ar 6 Rhagfyr o alttickets.com a ticketmaster.co.uk.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM