Canolfan sector cyhoeddus posib newydd i ganol y ddinas: Cyfle i ddweud eich dweud
Gofynnir i drigolion Abertawe am yr hyn yr hoffent ei weld yn cael ei ystyried fwyaf os yw gwasanaethau'r cyngor yn symud o'r Ganolfan Ddinesig i adeilad newydd yng nghanol y ddinas.
Daw'r arolwg wrth i Gyngor Abertawe ddechrau ystyried symud i ffwrdd o'i safle ar lan y môr i ganolfan newydd yng nghanol y ddinas ar gyfer gwasanaethau'r sector cyhoeddus.
Meddai Geoff Bacon, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo'r cyngor, "Mae'r cynigion yn y camau cynnar ac ni fydd unrhyw benderfyniadau'n cael eu gwneud cyn bod achos busnes llawn yn cael ei lunio a phobl yn cael y cyfle i ddweud eu dweud."
Bydd rhyddhau safle'r Ganolfan Ddinesig yn creu cyfle i adfywio ardal glan y môr.
Mae'r arolwg yn agored tan 31 Rhagfyr a gellir ei gwblhau ar-lein - https://www.abertawe.gov.uk/CynnigyGanolfanDdinesig. Mae copïau papur ar gael yng Nghanolfan Gyswllt y Ganolfan Ddinesig.
Llun: Canolfan Ddinesig Abertawe. Llun: Cyngor Abertawe