Dyfrffyrdd Abertawe: Cyrchfannau newydd yn yr arfaeth
Cymerodd gynlluniau uchelgeisiol i agor rhagor o ddyfrffyrdd Abertawe ar gyfer cychod teithio gam ymlaen mawr heddiw(sylwer Chwefror 15).
Datgelwyd adroddiad ar y posibilrwydd o greu ffyrdd newydd o deithio o aber afon Tawe i fyny Cwm Tawe a thuag at Gastell-nedd.
Datgelwyd hefyd fod cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer man codi a gollwng newydd i gychod afon ger Stadiwm Liberty.
Cyhoeddwyd yr adroddiad Copper Jack: Cyrchfannau Newydd - gan Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe, elusen sy'n gweithredu cwch cymunedol y Copper Jack ar afon Tawe ac sy'n hyrwyddo amgylchedd a threftadaeth dyfrffyrdd mewnol yr ardal, a'r defnydd ohonynt.
Dywed yr adroddiad ei bod yn ddichonadwy, gyda llawer o gyllid a chefnogaeth arall, i greu dyfrffyrdd mordwyadwy hyd at Glydach a Jersey Marine, gyda'r rhain yn cysylltu â chamlesi sy'n bod.
Rhagor: Copper Jack
Cyrchfannau Newydd: www.bit.ly/CJNDfeb21