Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Fideo newydd yn mynd y tu ôl i'r llenni ym Mae Copr

Mae fideo newydd y tu ôl i'r llenni'n dangos mwy fyth o gynnydd yn ardal newydd cam un Bae Copr Abertawe gwerth £135m.

Copr Bay 2 (August 2021)

Copr Bay 2 (August 2021)

Mae ardal cam un Bae Copr yn cynnwys Arena Abertawe, y  bont nodedig dros Oystermouth Road, y parc arfordirol 1.1 erw, cartrefi newydd, maes parcio newydd a lleoliadau newydd ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden.

Mae'r fideo newydd yn dangos y canlynol:

  • Gwaith adeiladu cyfredol y tu fewn i awditoriwm Arena Abertawe
  • Fideo o'r caffi a'r bwyty newydd yn y parc arfordirol sy'n dechrau datblygu
  • Fideo rithiol o'r bont
  • Mwy fyth o gynnydd o ran gosod y paneli aur o amgylch y tu allan i'r arena

Bydd gan bob panel dechnoleg goleuadau LED a fydd yn caniatáu sioeau goleuadau o amgylch y tu allan i'r atyniad. Unwaith bydd yr arena wedi'i chwblhau ac wedi agor, gellid defnyddio'r paneli hefyd i hyrwyddo sioeau, cyngherddau, cynadleddau a digwyddiadau eraill sydd ar ddod. Mae dros 1,600 o baneli'n cael eu gosod, ynghyd â mwy na 95,000 o oleuadau LED.

Mae ardal cam un Bae Copr gwerth £135miliwn yn cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe a'i chynghori gan y rheolwr datblygu, RivingtonHark.

Bydd y gwaith adeiladu yn ardal cam un Bae Copr - a arweinir gan Buckingham Group Limited - wedi'i gwblhau yn nes ymlaen eleni, gyda'r arena sydd â lle i 3,500 yn agor ei drysau ar ddechrau 2022.

Ambassador Theatre Group (ATG) fydd yn gweithredu Arena Abertawe, a chaiff cerddoriaeth fyw, comedi, theatr, cynadleddau a digwyddiadau eu cynnal yno.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae datblygiad cam un Bae Copr wir yn dechrau datblygu cyn cael i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yn nes ymlaen eleni. Mae'n werth £17.1m i economi'r ddinas a bydd yn denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr newydd i Abertawe a fydd yn aros yn ein gwestai, yn defnyddio tacsis lleol ac yn gwario yn ein siopau, ein bwytai a'n bariau lleol. Bydd hyn yn helpu economi'n dinas i dyfu, wrth gyflymu adferiad Abertawe yn dilyn y pandemig.

"Bydd preswylwyr Abertawe ac ymwelwyr â'r ddinas yn gallu mwynhau Arena ragorol Abertawe yn fuan, a byddant hefyd yn elwa o barc newydd cyntaf canol dinas Abertawe ers y cyfnod Fictoraidd a chysylltiadau gwell nag erioed rhwng canol y ddinas â'n glan môr trawiadol.

"Un o fusnesau Abertawe sef The Secret Hospitality Group fydd yn rhedeg y caffi a'r bwyty yn y parc arfordirol, a chaiff rhagor o denantiaid cam Un Bae Copr eu cyhoeddi'n fuan.

"Bydd y datblygiad hwn hefyd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer rhagor o fuddsoddiad yn Abertawe, gan ddod â mwy fyth o swyddi i'r ddinas wrth gynyddu proffil Abertawe ymhellach ar draws y DU a'r tu hwnt fel un o'r dinasoedd gorau i fyw, gweithio, astudio ac ymweld â hi."

Cyngor Abertawe sy'n ariannu Cam Un Bae Copr, a daw rhywfaint o'r cyllid ar gyfer yr arena o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Ariennir pont Bae Copr, sy'n rhan o'r cynllun, yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Close Dewis iaith