Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymchwiliad Craffu Cydraddoldeb

Roedd yr Ymchwiliad yn ystyried 'sut y gall y cyngor wella'r ffordd y mae'n bodloni ac yn ymgorffori'r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2011)'.

Dyfarnodd panel o gynghorwyr craffu fod 'Cyngor Abertawe yn trin pobl yn deg ond gallai wneud yn well'. 

Meddai Cynullydd y Panel Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau, y Cynghorydd Louise Gibbard, 'Penderfynom ystyried y mater hwn oherwydd ei fod yn ymddangos yn aml yn rhestr y materion y mae cynghorwyr a'r cyhoedd cyffredinol yn pryderi amdanynt. Ddeng mlynedd ar ôl pasio'r Ddeddf Cydraddoldeb, mae wedi rhoi'r cyfle i gynghorwyr craffu ystyried pa mor bell rydym wedi dod fel dinas ac awdurdod lleol o ran ymgorffori egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth rydym yn ei wneud.'

Daeth y panel o gynghorwyr craffu i'r casgliad bod saith ffordd y gall Cyngor Abertawe wella'r ffordd y mae'n bodloni'i ddyletswyddau cydraddolebau. Maent yn credu y gellir gwneud hyn drwy:

  1. Gadw llygad ar y llun cenedlaethol a sut mae'n effeithio arnom yn lleol
  2. Parhau i adeiladu ar yr ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth sydd eisoes yn amlwg yn y cyngor
  3. Sicrhau bod polisïau, arfer a phrosesau effeithiol ar waith sy'n bodloni'r Ddyletswydd Cydraddoldeb ac yn helpu i'w hymgorffori
  4. Gwella hygyrchedd gwasanaethau'r cyngor
  5. Gwella sut rydym yn gweithio gyda phobl eraill ac yn dysgu ganddynt
  6. Parhau i wella sut rydym yn ymgynghori ac yn ymgysylltu
  7. Diogelu cenedlaethau'r dyfodol.

Mae dolenni i fersiynau gwahanol o'r adroddiad fel a ganlyn:

Crynodeb o'r Adroddiad

Testun yn unig

Hawdd ei ddarllen

Adroddiad Pobl Ifanc

Darllenwch ymateb y Cabinet i'r Ymchwiliad Craffu hwn yma

Cewch y newyddion diweddaraf am waith presennol y tîm Craffu trwy ddarllen ein cylchlythyr misol. Gallwch danysgrifio i'n cylchlythyr i dderbyn y diweddaraf bob mis trwy e-bost.

Close Dewis iaith