Ymchwiliad Craffu Cydraddoldeb
Roedd yr Ymchwiliad yn ystyried 'sut y gall y cyngor wella'r ffordd y mae'n bodloni ac yn ymgorffori'r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2011)'.
Dyfarnodd panel o gynghorwyr craffu fod 'Cyngor Abertawe yn trin pobl yn deg ond gallai wneud yn well'.
Meddai Cynullydd y Panel Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau, y Cynghorydd Louise Gibbard, 'Penderfynom ystyried y mater hwn oherwydd ei fod yn ymddangos yn aml yn rhestr y materion y mae cynghorwyr a'r cyhoedd cyffredinol yn pryderi amdanynt. Ddeng mlynedd ar ôl pasio'r Ddeddf Cydraddoldeb, mae wedi rhoi'r cyfle i gynghorwyr craffu ystyried pa mor bell rydym wedi dod fel dinas ac awdurdod lleol o ran ymgorffori egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth rydym yn ei wneud.'
Daeth y panel o gynghorwyr craffu i'r casgliad bod saith ffordd y gall Cyngor Abertawe wella'r ffordd y mae'n bodloni'i ddyletswyddau cydraddolebau. Maent yn credu y gellir gwneud hyn drwy:
- Gadw llygad ar y llun cenedlaethol a sut mae'n effeithio arnom yn lleol
- Parhau i adeiladu ar yr ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth sydd eisoes yn amlwg yn y cyngor
- Sicrhau bod polisïau, arfer a phrosesau effeithiol ar waith sy'n bodloni'r Ddyletswydd Cydraddoldeb ac yn helpu i'w hymgorffori
- Gwella hygyrchedd gwasanaethau'r cyngor
- Gwella sut rydym yn gweithio gyda phobl eraill ac yn dysgu ganddynt
- Parhau i wella sut rydym yn ymgynghori ac yn ymgysylltu
- Diogelu cenedlaethau'r dyfodol.
Mae dolenni i fersiynau gwahanol o'r adroddiad fel a ganlyn:
Darllenwch ymateb y Cabinet i'r Ymchwiliad Craffu hwn yma
Cewch y newyddion diweddaraf am waith presennol y tîm Craffu trwy ddarllen ein cylchlythyr misol. Gallwch danysgrifio i'n cylchlythyr i dderbyn y diweddaraf bob mis trwy e-bost.