Pobl a fydd yn codi arian i elwa o weithdy cyllido torfol
Gwahoddir preswylwyr o Abertawe a hoffai godi arian ar gyfer prosiectau cymunedol i weithdy a gynhelir gan arbenigwyr cyllido torfol.
Cynhelir y digwyddiad am ddim gan sefydliad ariannu arbenigol Spacehive yng Nghapel y Tabernacl, Stryd Woodfield, Treforys rhwng 6pm a 7.30pm nos Iau 28 Tachwedd.
Bydd y rheini sy'n bresennol yn dysgu sut i wneud y defnydd gorau o Gyllido Torfol Abertawe, sef partneriaeth newydd rhwng Spacehive a Chyngor Abertawe.
Nod Cyllido Torfol Abertawe yw darparu cyfle i syniadau ar gyfer prosiectau ddenu'r arian y mae ei arnynt yn haws, wrth alluogi pawb sy'n meddwl llawer am yr ardal gyfrannu.
I gofrestru ar gyfer y gweithdy, ewch i www.bit.ly/WorkshopNov28.
Llun: Y Tabernacl yn Nhreforys.