Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am chwyn

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am chwyn.

Amserlen chwistrellu chwyn Amserlen chwistrellu chwyn

Faint o arian a ddyrannwyd ar gyfer chwistrellu chwyn ar ffyrdd a phalmentydd Abertawe?

2023/24 - £118,760
2022/23 - £118,760
2021/22 - £75,000
2020/21 - £75,000
2019/20 - £75,000

Beth yw chwynnyn?

Planhigyn sy'n tyfu mewn lle nad yw'n cael ei groesawu yw chwynnyn. Ar ein priffyrdd, chwyn yw'r enw a roddir ar unrhyw blanhigion sy'n tyfu yn y palmentydd ac ymylon palmant neu o gwmpas draeniau a chelfi stryd.

Pa lefel o wasanaeth y gallwn ni ei disgwyl?

Cyflogir ein contractwyr i gadw lefel y chwyn yn hylaw. Nid ydym yn disgwyl arwyneb heb chwyn ond byddem yn disgwyl y caiff yr holl dyfiant sylweddol ei drin.

Pam rheoli chwyn?

Mae chwyn yn cael eu rheoli oherwydd y rhesymau canlynol:

  • Golwg - mae chwyn yn tynnu oddi ar olwg gyffredinol yr ardal ac yn dal sbwriel
  • Diogelwch - mae twf chwyn yn gallu effeithio ar welededd defnyddwyr ffyrdd a chuddio arwyddion traffig. Mae chwyn ar ymylon palmant ac o gwmpas draeniau'n gallu atal neu arafu draeniad. Gall eu twf ar balmentydd ddifrodi eu harwyneb gan achosi cerrig palmant anwastad neu rai sydd wedi torri.
  • Adeiledd - mae twf chwyn yn gallu dinistrio arwynebau palmentydd, gwthio ymylon palmant ar wahân, ac achosi i waliau hollti, gan gynyddu'n costau cynnal a chadw sylweddol.

Ble mae chwyn yn cael eu trin?

Caiff pob palmant ac ymyl palmant ar ffyrdd preswyl eu trin er mwyn rheoli chwyn. Mae ymylon llwybrau sy'n union gyfagos â waliau neu adeiladau hefyd yn cael eu trin yn ôl y galw.

Byddwn yn trin:

  • Troedffyrdd cyhoeddus
  • Ymylon palmant a sianeli draenio
  • Meysydd parcio sy'n eiddo i'r cyngor

Cofiwch fod 1,500km o droedffyrdd felly mae chwistrellu chwyn yn broses hir.

Ble bydd y cyngor yn gwrthod trin chwyn?

Nid ydym yn gyfrifol am drin tir preifat nac eiddo y mae cyrff cyhoeddus neu sefydliadau preifat eraill yn berchen arno. Ni fyddwn yn trin priffyrdd sydd heb gael eu mabwysiadu gan y cyngor.

Sut caiff chwyn eu rheoli?

Mae chwyn yn cael eu rheoli drwy ddefnyddio chwynladdwr effeithiol a gymeradwyir ar gyfer yr amgylchedd. Pan gaiff y chwynladdwr ei roi ar y chwyn, trwy chwistrellu fel arfer, mae'n gweithio'i ffordd drwy'r planhigyn gan ei ladd yn gyfan gwbl. Wrth ddod i gysylltiad â'r pridd, mae'r chwynladdwr yn cael ei ddadelfennu'n sylweddau diniwed.

Mae gan y chwynladdwyr sy'n cael eu defnyddio yn Abertawe wenwyndra isel iawn a gellir eu defnyddio mewn ardaloedd sy'n agored i aelodau'r cyhoedd a'u hanifeiliaid anwes. Mewn ardaloedd sy'n agos at gyrsiau a chronfeydd dŵr, ni ddefnyddir chwynladdwyr.

Rydym yn ymgynghori'n gyson ag arbenigwyr annibynnol i gael cyngor ar reoli chwyn a materion cysylltiedig er mwyn sicrhau ein bod yn cael y diweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth, argymhellion chwynladdwyr ac arfer masnachol.

Nid ydym yn tynnu chwyn ar ôl eu chwistrellu, ond gadewir nhw i bydru.

Darllenwch fwy am ein defnydd o chwynladdwyr sy'n cynnwys glyffosad

Pryd caiff chwyn eu trin?

Caiff y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl eu trin unwaith y flwyddyn yn ystod y gwanwyn, a chaiff ail a thrydedd driniaeth eu rhoi os bydd angen.

Faint o amser mae'n cymryd i'r chwynladdwr gael effaith?

Fel y gŵyr garddwyr sy'n defnyddio chwynladdwyr, fel arfer nid yw'n amlwg yn syth fod chwynladdwr wedi cael ei roi ar blanhigion. Fel arfer, bydd yn cymryd hyd at bythefnos i gael effaith weladwy, er gall amodau tywydd effeithio ar hyn..

Sut mae'r tywydd yn effeithio ar drin problemau chwyn?

Rydym yn gwneud popeth y gallwn i drin chwyn ar amserau addas. Fodd bynnag, ni allwn eu trin:

  • Os yw'r tywydd yn boeth iawn oherwydd gall y chwynladdwr anweddu cyn iddo gael ei amsugno gan y chwyn
  • Os yw'n debygol o fwrw glaw oherwydd byddai'r chwynladdwr yn cael ei olchi i ffwrdd cyn iddo gael ei amsugno gan y chwyn
  • Os bydd gwyntoedd cryfion. Mae hyn yn sicrhau nad yw'r chwynladdwr yn symud gyda'r aer i dir cyfagos neu'n achosi difrod.

Chwyn a deddfwriaeth

Mae pum chwynnyn yn cael eu rhestri yn Neddf Chwyn 1959 (Yn agor ffenestr newydd), Marchysgall, Ysgall y Maes, Tafol Crych, Dail Tafol a Llysiau'r Gingroen. Bydd y cyngor yn cael gwared ar lysiau'r gingroen oddi ar ymylon y briffordd lle mae, yn ein barn ni, risg uchel o gingroen yn lledaenu i dir a ddefnyddir at ddiben pori ceffylau neu anifeiliaid eraill, neu gynhyrchu porthiant anifeiliaid.

O dan adran 14 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Yn agor ffenestr newydd), gall fod yn dramgwydd i blannu neu dyfu rhai planhigion penodol yn y gwyllt, gan gynnwys yr efwr enfawr a chanclwm Japan. Nid oes unrhyw ofyniad statudol i berchnogion tir gael gwared ar y planhigion hyn o'u heiddo, ond mae'n drosedd gadael iddynt ledaenu i dir cyfagos.

Sut i roi gwybod am broblemau chwyn ar y briffordd

Defnyddiwch ffurflen adrodd amdani'r Is-adran Priffyrdd ar gyfer chwyn neu ffoniwch ni ar 01792 843330.

Amserlen chwistrellu chwyn

Dyddiadau trin chwyn yn eich ardal chi.

Chwynladdwyr sy'n cynnwys glyffosad

Darllenwch fwy am ein drenydd o chwynladdwyr sy'n cynnwys glyffosad.
Close Dewis iaith