Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am cynnal a chadw ffyrdd

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am cynnal a chadw ffyrdd.

Pa mor aml y mae ysgubwyr ffyrdd yn ymweld â ffyrdd a throedffyrdd? 

Mae gennym nifer bach o ysgubwyr ffyrdd (cerbydau ysgubo mecanyddol mawr -a chryno) sy'n ysgubo priffyrdd mabwysiedig gan gynnwys troedffyrdd. Yn gyffredinol mae'r cerbydau'n canolbwyntio ar ysgubo ardaloedd blaenoriaeth uchel megis canol y ddinas ac unrhyw ardaloedd siopa eraill er enghraifft. Mae'r ardaloedd hyn yn cael eu hysgubo'n ddyddiol. Maent hefyd yn canolbwyntio ar y priffyrdd hynny lle mae llawer iawn o draffig a lle gallai casgliadau o wastraff a sbwriel rhydd fod yn beryglus ac achosi mwy o risg i ddefnyddwyr ffyrdd.

Mae'r cerbydau hefyd yn ysgubo priffyrdd eraill ac ardaloedd anghysbell fel rhan o amserlen o waith wedi'i raglennu ond gall amlder yr ymweliadau newid yn dibynnu ar flaenoriaethau eraill. Yn aml mae angen i'r cerbydau  ymateb i ddamweiniau traffig ar y ffyrdd ac unrhyw beryglon eraill ar y briffordd fabwysiedig. Bydd ceisiadau i'r cerbyd ysgubo ffordd/ardal benodol yn cael eu hasesu yn ôl eu teilyngdod unigol a'u gweithredu fel y bo'n briodol wrth ystyried yr amserlen o waith wedi'i raglennu.

Yn ystod yr hydref a'r gaeaf mae'r cerbydau hefyd yn canolbwyntio ar glirio ardaloedd lle mae llawer o ddail yn disgyn er mwyn lleihau dŵr wyneb, er enghraifft, ac unrhyw beryglon posibl sy'n cael eu hachosi gan ddail gwlyb, llithrig i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol.

Faint o arian rydych chi wedi'i wario ar gynnal a chadw ffyrdd?

Cynnal a chadw ffyrdd
 22/2321/2220/2119/2018/19
Cyfalaf     
Cyllideb gyfalaf ailwynebu ffyrdd cerbydau*£1,270,000£1,598,000£4,556,000£1,744,000£2,437,000
PATCH*£1,180,000£783,000£721,000£665,000£650,000
Cyllideb gyfalaf ailwynebu troedffyrdd*£850,000£802,000£1,273,000£1,009,000£910,000
Cyllideb gyfalaf draenio*£700,000£936,000£671,000£598,000£622,000
Cyllideb gyfalaf gwaith i amddiffyn yr arfordir* £181,000£134,000£137,000£186,000£197,000
Grantiau priffyrdd Llywodraeth Cymru£1,500,000£1,891,000£1,190,000£1,191,000£1,786,000
Refeniw     
Cyllideb cynnal a chadw adeileddol£285,121£239,700£237,900£390,900£388,900
Cyllideb cynnal a chadw rheolaidd**£3,035,645£2,943,120£2,908,830£2,690,130£2,585,030
Cyllideb cynnal a chadw diogelwch***£321,500£321,500£321,500£321,500£321,500
Gwariant cynnal a chadw dros y gaeaf****£808,774£499,370£702,008£305,907£353,072

* gan gynnwys trosglwyddiadau
** yn cynnwys atgyweirio ffyrdd, trwsio tyllau yn y ffyrdd, draeniau, chwynnu
*** yn cynnwys arwyddion a llinellau gwyn
**** yn cynnwys gwerth ased stoc halen

Mae cyfanswm y gwaith a wnaed yn anodd ei gyfrif oherwydd bod gwaith yn wahanol ac yn amrywio. Isod ceir crynodeb.

Gwaith cynnal a chadw arfaethedig
 22/2321/2220/2119/2018/19
Atgyweiriadau PATCH (m2)40,04023,26716,92616,92117,104
Ailwynebu ffyrdd cerbydau (m2)73,08092,732328,34966,019126,713
Ailwynebu ffyrdd cerbydau (tunellau)8,1208,83115,7537,49611,590
Ailwynebu troedffyrdd (m2)  
(yn cynnwys mewnosod a thriniaeth wynebu tenau)
9,66012,75822,74116,01513,066
Ailwynebu troedffyrdd (tunellau)
(mae tunelli ar gyfer prosiectau mewnosod yn unig)
1,4861,9631,469**
Gwaith adfer arwynebau ffyrdd (m2)29,85514,60093,56090,61559,496
Triniaethau eraill (m2)
(micro-asffalt)
32,755 64,786123,575141,572

* Ni chedwir y data ar hyn o bryd

Sawl km o ffyrdd, yn gyfan gwbl, a gynhelir gan y cyngor?

Tua 1113km.

Sawl km o droedffyrdd, yn gyfan gwbl, a gynhelir gan y cyngor? 

Tua 1,335km.

Sawl cais am iawndal a gyflwynwyd gan yrwyr o ganlyniad i ddifrod i'w ceir ar y ffordd?

Ceisiadau a dderbyniwyd
BlwyddynCeisiadau a dderbyniwydCyfanswm y taliadau a wnaed (£)
2022/2394388
2021/225770
2020/21760
2019/2080478.77
2018/1982850.03

Sut ydych chi'n blaenoriaethu cynlluniau cynnal a chadw ffyrdd?

Yn Abertawe, mae'r Gwasanaeth Priffyrdd yn llunio blaenraglen waith pum mlynedd ar gyfer atgyweirio ffyrdd a phalmentydd. Dylunnir y rhaglen i leihau'r gwaith cynnal a chadw allweddol sy'n cronni yn y tymor hir trwy gydbwyso gwaith ataliol ac adweithiol. Y dull mwyaf cost-effeithiol o gynnal a chadw'r briffordd yw trwy fesurau ataliol ond yn aml mae angen gwaith adweithiol i atgyweirio'r ffyrdd gwaethaf i sicrhau bod y briffordd yn parhau i fod yn ddiogel. 

Defnyddir system i asesu blaenoriaeth cynlluniau ailwynebu . Mae'r asesiad hwn yn cynnwys archwiliad gweledol yn ogystal ag arolygon ar gyflwr arwyneb y ffordd, proffil a ffrithiant arwyneb y ffordd. 

Rydym yn ystyried ffactorau eraill, yn ogystal â chyflwr strwythurol megis blaenoriaeth cynnal a chadw, pwysigrwydd rhwydwaith ynghyd â ffactorau megis sensitifrwydd traffig a dwysedd llwybr bws.

Mae'r ffactorau hyn yn cyfuno i roi sgôr ar gyfer y rhan o'r ffordd sy'n cael ei hystyried sydd, yn ei dro, yn rhoi safle blaenoriaeth. Mae pob ffordd hefyd yn cael ei hasesu ar gyfer y triniaethau mwyaf addas. 

Rydym yn aml yn cael ein cwestiynu ynghylch pam mae ffordd benodol yn cael ei dewis, yn enwedig lle mae preswylydd yn credu bod ei ffordd ef mewn cyflwr gwaeth. Nid yw cyflwr strwythurol yr un peth â chyflwr esthetig bob amser ac ambell waith gall ffordd sy'n llawn atgyweiriadau fod yn strwythurol gadarn.Ffactor rheolaidd arall yw'r dewis o driniaeth gan y bydd gwaith ataliol, yn naturiol, yn cael ei wneud ar ffyrdd nad ydynt mewn cyflwr mor wael.

Close Dewis iaith