Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cydlynwyr Ardaloedd Lleol bellach yn gwasanaethu pob rhan o Abertawe

Mae pedwar Cydlynydd Ardal Leol arall wedi'u recriwtio, sy'n golygu y gall y rhwydwaith bellach roi cefnogaeth i bob cymuned yn Abertawe.

New_localareacoordintors

New_localareacoordintors

Mae Cydlynu Ardaloedd Lleol wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers ei gyflwyno gyntaf gan Gyngor Abertawe mewn tair ward yn y ddinas yn 2015.

Mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn gweithio gyda chymunedau ac unigolion i gefnogi'r rheini sy'n wynebu heriau, fel nad yw eu sefyllfa'n gwaethygu i bwynt lle mae angen ymyriad y gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol.

Roedd y tîm hefyd yn rhan flaenllaw o ymateb y cyngor i bandemig Coronafeirws drwy gefnogi pobl y mae'r feirws a'r cyfnodau clo wedi effeithio arnynt yn ogystal â hwyluso cymorth cymydog i gymydog pan gynigiodd preswylwyr eu cymorth.

Meddai Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau i Oedolion, "Rwy'n falch iawn ein bod bellach wedi cyrraedd y garreg filltir o sefydlu tîm sy'n ddigon mawr i wasanaethu holl gymunedau Abertawe.

"Abertawe oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i dreialu Cydlynu Ardaloedd Lleol ac rydym wedi gweld y gwahaniaeth mawr mae'n ei wneud er gwell, gan drawsnewid bywydau pobl drwy eu cefnogi a'u helpu i nodi eu cryfderau a magu eu hyder.

"Ers y buddsoddiad cychwynnol hynny, mae'r tîm wedi ehangu ac mae ein pedwar recriwt diweddaraf bellach yn dod â chyfanswm y rhwydwaith i 26.

"Mae ganddynt frîff eang, sy'n cynnwys helpu pobl i ddatblygu sgiliau a syniadau i osgoi unrhyw argyfyngau trwy ddod o hyd i atebion ymarferol i broblemau pob dydd.

"Maent hefyd yn gofalu am bobl a all fod yn unig, ac yn eu helpu i ddefnyddio'r cryfderau yn eu bywydau ac yn y gymuned i atal yr angen am ymyriad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol neu asiantaethau eraill. Rhan allweddol o'u rôl yw helpu unigolion i ddod o hyd i'r cryfderau yn eu bywydau ac yn y gymuned, a all aros yn gudd fel arall, a'u defnyddio.

"Ein huchelgais yw bod gan bob cymuned yn Abertawe gydlynydd ardal leol ac rwyf wrth fy modd ein bod bellach wedi cyflawni hyn."

I gael gwybod pa CAL neu sefydliad cymunedol sy'n gwasanaethu'ch ardal, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/cydlynuardalleol

Close Dewis iaith