Toglo gwelededd dewislen symudol

Canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar gyfer Abertawe

Cyhoeddwyd canlyniadau'r cyfrifiad cyntaf ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar 28 Mehefin 2022.

Nododd Cyfrifiad 2021 mai poblogaeth breswyl arferol Abertawe oedd 238,500; tua 500 neu 0.2 y cant yn llai na chyfanswm Cyfrifiad 2011.

Roedd dros un o bob pump (22 y cant, 52,600) o drigolion Abertawe o dan 20 oed, gyda thua 21% (48,900) yn 65 oed a throsodd.

Mae nodyn briffio (PDF) [1003KB] cryno sy'n manylu ar ganlyniadau Cyfrifiad 2021 cyntaf Abertawe ar gael ar y dudalen hon.  Mae nodyn briffio atodol hefyd ar gael (PDF) [855KB], sy'n cynnwys gwybodaeth o'r canlyniadau cyntaf ar aelwydydd; dwysedd poblogaeth; elfennau'r amcangyfrifon; cyfraddau ymateb; ymatebion ar-lein; a dolenni i adroddiadau cychwynnol y SYG.  Bydd rhagor o wybodaeth a dadansoddiadau yn dilyn wrth i ddata ychwanegol gael ei gyhoeddi.

Mae gwybodaeth gefndir am Gyfrifiad 2021 ar gael yn www.abertawe.gov.uk/cyfrifiad2021

SYLWER:  Nid yw gwybodaeth ar gyfer ardaloedd bach (islaw lefel awdurdod lleol) a nodweddion poblogaeth penodol ar gael o ddatganiad cyntaf Cyfrifiad 2021.  Gallwch gael gwybodaeth bellach am gynlluniau arfaethedig SYG ar gyfer cyhoeddi data'r Cyfrifiad a dadansoddiad yma:   Cynlluniau rhyddhau Cyfrifiad 2021