Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth Tanwydd Gaeaf Brys ar gyfer costau tanwydd sydd oddi ar y grid

Gall y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) gynnig cymorth unwaith eto'r gaeaf hwn ar gyfer costau tanwydd oddi ar y grid.

Taliad ar gyfer cymorth tanwydd gaeaf oddi ar y grid yw hwn ac mae'n rhan o'r Gronfa Cymorth Dewisol.

Bydd y cymorth ar gael tan ddiwedd mis Mawrth 2024 ac mae'n cynnwys darparu Taliadau Cymorth Brys (TCB) i helpu cartrefi nad ydynt ar y grid nwy sy'n dioddef caledi ariannol i brynu olew a nwy petrolewm hylifedig (LPG) ychwanegol yn ystod y misoedd oeraf.

Mae hyn ochr yn ochr â chymorth brys sy'n bodoli eisoes i helpu cartrefi y mae angen cymorth arnynt i dalu am fesuryddion talu nwy a thrydan ymlaen llaw. Mae'n helpu i fynd i'r afael ag annhegwch yn y ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig nes bod cartrefi sy'n brin o danwydd wedi cael cefnogaeth ddigonol i drosglwyddo i ffynonellau gwres amgen carbon isel fel blaenoriaeth.

Mae cymorth o ran tanwydd oddi ar y grid ar gyfer gaeaf yn cynnwys y canlynol:

  • Olew - taliad o hyd at £250 fel cyfraniad tuag at brynu tanc o olew. Uchafswm o un dyfarniad ar gyfer olew ar gyfer 12 mis treigl

    NEU

  • Nwy LP - taliad o hyd at £70 fel cyfraniad tuag at brynu nwy LP. Gellir dyfarnu hyn hyd at dair gwaith mewn 12 mis treigl (yn amodol ar eich hanes dyraniadau EAP a'ch uchafswm cymorth).

Gwneir y dyfarniad fel BACS (Trosglwyddiad Banc) yn unig. 

Proses ymgeisio

Bydd angen i weithiwr proffesiynol wneud cais ar eich rhan. Dylech fynd at eich gweithiwr cymorth presennol (fel gweithiwr cymdeithasol, swyddog tai neu debyg). Byddant yn gwneud y cais ar eich rhan ac yn eich cefnogi drwy'r broses.

Os nad oes gennych weithiwr cymorth, gall Cyngor ar Bopeth archwilio pa gymorth grant ar gyfer costau ynni y gallech fod yn gymwys ar ei gyfer, a gwneud cais ar eich rhan, os yw'n briodol.

Sylwer: ni allwch wneud cais annibynnol am gymorth tanwydd gaeaf brys oddi ar y grid y Gronfa Cymorth Dewisol.

Gall y gweithiwr proffesiynol wneud cais drwy ffonio (0800 859 5924) neu gall e-bostio tîm y Gronfa Cymorth Dewisol a gofyn am alwad yn ôl - daf.feedback@necsws.com.

Bydd angen caniatâd y cleient ar weithwyr proffesiynol er mwyn gwneud y cais ar ei ran, ond does dim angen i'r cleient fod gyda nhw pan fydd yn ffonio. Bydd angen darparu rhif cyfrif banc a chôd didoli'r cleient ar adeg cyflwyno'r cais. Dylai cleientiaid gadw'r holl dderbynebau gan y bydd hapwiriadau'n cael eu cynnal.

Sylwer: ni fyddwch yn gallu cael cymorth tanwydd gaeaf drwy'r broses ymgeisio ar-lein.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Gronfa Cymorth Dewisol (Yn agor ffenestr newydd)