
Cynaeafu cregynbysgod
Mae cocos a chregyn gleision yn folysgiaid cregyn deuglawr a elwir yn gregynbysgod sy'n bwydo drwy hidlo'u bwyd o'r dŵr sy'n gartref iddynt.
Os ydynt yn byw mewn ardal sydd wedi'i llygru gan garthion neu sydd â ffurf wenwynig o flŵm algaidd, gall y cregynbysgod gronni bacteria neu firysau a hyd yn oed gwenwynau gan yr algau. Gall afiechydon megis gastroenteritis a hepatitis ddeillio o fwyta cregynbysgod halogedig tra gall gwenwyno gan docsinau algaidd megis gwenwyn parlysol pysgod cregyn a gwenwyn diaretig pysgod cregyn achosi salwch difrifol.
Er mwyn rheoli'r perygl o salwch, mae'n rhaid i gregynbysgod sy'n mynd ar y farchnad i'w fwyta fel lluniaeth dynol ddeilio o ardal gynhyrchu ddosbarthedig. Dosberthir ardaloedd fesul rhywogaeth ac yn ôl gradd yr halogi, sy'n seiliedig ar fonitro halogi ysgarthol yn y cregynbysgod. Cregynbysgod o ddyfroedd Dosbarth A yn unig sy'n gallu cael eu gwerthu'n uniongyrchol ar y farchnad. Fel arall, mae'n rhaid iddynt gael eu prosesu ymhellach cyn cael eu gwerthu.
Mae'r ardaloedd dosbarthedig hyn sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cynaeafu cregynbysgod yn fasnachol, yn cael eu profi'n rheolaidd gan yr awdurdod lleol. Anfonir samplau i Ganolfan yr Amgylchedd, Pysgodfeydd ac Acwafeithrin (CEFAS) yn Weymouth, sy'n coladu'r canlyniadau ac yn categoreiddio'r gwelyau.
Dosberthir gwelyau cregynbysgod yn ôl lefel y bacteria E.coli a geir yng nghnawd y cregynbysgod. Cyhoeddir rhestr ddiweddaraf o ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu ar wefan CEFASYn agor mewn ffenest newydd (gweler Moryd Llwchwr). Mae'r rhestr wedi'i rhannu yn ôl ardaloedd awdurdodau lleol ac mae'n darparu manylion yr ardaloedd cynhyrchu a chynaeafu cregynbysgod presennol.
- Ceir rhestr o'r canlyniadau samplu bacteria diweddaraf wedi'u diweddaru ar wefan CEFASYn agor mewn ffenest newydd
- Ceir rhestr o'r canlyniadau samplu gwenwyn diweddaraf wedi'u diweddaru ar wefan yr Asiantaeth Safonau BwydYn agor mewn ffenest newydd
Os bydd canlyniadau'r samplu'r naill neu'r llall yn uwch na'r safonau derbyniol fel y'u pennir mewn deddfwriaeth, cyflwynir hysbysiadau cau dros dro sy'n gwahardd cynaeafu cregynbysgod pan fydd perygl i iechyd cyhoeddus.
Ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu ar hyn o bryd yn Ninas a Sir Abertawe
(Sylwer: Cyngor Sir Gâr sy'n gyfrifol am ardaloedd ar ochr ogleddol sianel llanw isel afon Llwchwr)
Ardal gynhyrchu | Rhywogaeth | Enw'r Safle | Statws y gwely |
---|---|---|---|
Moryd Llwchwr (De) | Cocos | De-ddwyrain | Ar agor |
Morfa Whitford | Cocos | Whitford | Ar agor |
Morfa Whitford | Cregyn gleision | Whitford | Ar agor |
Dengys y map canlynol o wefan CEFASYn agor mewn ffenest newydd y gwelyau cocos dosbarthedig ym Moryd Llwchwr.
Dengys y map canlynol o wefan CEFASYn agor mewn ffenest newydd y gwelyau cregyn gleision dosbarthedig ym Moryd Llwchwr.
Olrheiniadwyedd cregynbysgod
Er mwyn sicrhau olrheiniadwyedd y cynnyrch, mae angen dogfen gofrestru ar bob llwyth o gregynbysgod byw wrth iddynt gael eu cludo o'r ardal gynhyrchu ble y'u casglwyd i'r ganolfan anfon neu buro lle cânt eu prosesu.
Cysylltwch â ni am ddogfennau cofrestru os hoffech gasglu cregynbysgod o ardal gynhyrchu ddosbarthedig yn Ninas a Sir Abertawe.
(Sylwer: bydd angen trwydded i gasglu cocos ym Moryd Llwchwr sydd dan Orchymyn Rheoleiddio dan reolaeth Cyfoeth Naturiol CymruYn agor mewn ffenest newydd)