Y diweddaraf am Coronafeirws #YmaIAbertawe
Yr wybodaeth ddiweddaraf:
Dyma'r newyddion diweddaraf am Coronafeirws ar ddydd Llun 8 Mawrth 2021.
#YmaiAbertawe
Y diweddaraf am achosion COVID-19 yn Abertawe
Achosion newydd a adroddwyd amdanynt yn ystod y saith niwrnod diwethaf: 78
Achosion newydd a adroddwyd amdanynt fesul 100,000 o'r boblogaeth yn ystod y saith niwrnod diwethaf: 31.6
Nifer y brechiadau yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe gan gynnwys ail ddosau (Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot):
Cofiwch ymarfer corff yn ddiogel
Ydych chi'n mynd am dro o amgylch y gymdogaeth i gadw'ch corff yn heini? Mae croeso i chi wneud hynny - ond gwnewch hynny'n ddiogel trwy gadw'ch pellter. Mae'n bwysig wrth i ni gyd fynd i'r afael â'r pandemig hwn.
Cadwch eich pellter
Os ydych yn bwriadu mynd i'r orsaf betrol heddiw i gael rhagor o danwydd ar gyfer y teithiau byr hynny i'r gwaith ac i siopa hanfodol, dilynwch gyfarwyddiadau'r orsaf betrol - cadwch eich pellter, gwisgwch fwgwd a diheintiwch.
Newyddion am frechlynnau
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn annog y rheini sydd wedi cael brechiad i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel o hyd.
Parhewch i gadw dau fetr oddi wrth bobl nad ydych chi'n byw gyda nhw, gwisgwch orchudd wyneb mewn lleoedd cyhoeddus caeëdig a golchwch eich dwylo.
Meddai Dr Keith Reed, eu Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, "Nid oes unrhyw frechlyn yn 100% effeithiol, ac nid ydym yn gwybod yn sicr o hyd pa mor heintus (neu beidio) yw person sydd wedi'i frechu.
"Gallech ddal COVID-19 o hyd (er ei fod yn annhebygol o fod mor ddifrifol) a gallech ei drosglwyddo i eraill o hyd."
Y datganiadau a'r datganiadau i'r wasg diweddaraf am Coronafeirws
Anogir preswylwyr a rhieni i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol diwygiedig y llywodraeth a dylai unrhyw un sy'n profi symptomau barhau i ddilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd ar gael yma: Yr wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Os ydych yn pryderu y gall fod gennych Coronafirws, gallwch wirio'ch symptomau gan ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.
Gwiriwr Symptomau Coronafeirws COVID 19 GIG Cymru
Os oes gennych symptomau Coronafeirws, dilynwch gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru: Cyngor hynanynysu
Dylech ffonio 111 dan yr amgylchiadau hyn yn unig:
- os rydych yn teimlo na allwch ymdopi â'ch symptomau gartref
- os yw eich cyflwr yn gwaethygu
- os nad yw'ch symptomau'n gwella ar ôl 7 niwrnod.