Cwmni dosbarthu mawr DPD fydd y busnes cyntaf ym Mharc Felindre
Disgwylir i un o gwmnïau dosbarthu parseli enwocaf y DU agor cyfleuster newydd proffil uchel yn un o safleoedd ehangu busnesau mwyaf deniadol Abertawe.
Bydd DPD yn gweithredu o ganolfan ddosbarthu newydd ym Mharc Felindre, safle 40 erw ger cyffordd 46 yr M4, pedair milltir i'r gogledd o ganol y ddinas.
Y datblygwr PMH a'r ariannwr Equites Property Fund sy'n gyfrifol am y datblygiad newydd lle bydd DPD yn gweithredu.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'n newyddion gwych i Abertawe a de-orllewin Cymru fod busnes â statws DPD yn buddsoddi'n sylweddol yma.
"Mae Parc Felindre'n lleoliad ardderchog ar gyfer busnes ac rwy'n disgwyl i gyrhaeddiad y busnes cyntaf hwn annog mentrau eraill i fuddsoddi ac ymsefydlu yma."
Meddai'r Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, "Mae cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol ym Mharc Felindre, gan greu parc busnes amlddefnydd o safon.
"Mae'r datblygiad preifat newydd hwn yn denu swyddi mawr eu hangen i'r safle, gan helpu i gynyddu'r galw wrth i ni geisio denu busnesau a chyflogaeth ychwanegol i'r ardal."
Meddai Louise Ferguson, Rheolwr Cyffredinol - Eiddo ar gyfer DPD, "Mae Parc Felindre'n lleoliad gwych i ni ac mae'n rhan allweddol o raglen fuddsoddi barhaus DPD i ehangu maint y rhwydwaith er mwyn ateb y galw am ein gwasanaethau a gwella effeithlonrwydd.
"Rydym yn adeiladu un o'n canolfannau dosbarthu awtomataidd cwbl gyfoes newydd, a fydd ddwywaith maint y canolfannau roeddem yn eu hadeiladu chwe blynedd yn unig yn ôl."
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'n hynod gyffrous bod datblygwyr a busnesau enwog yn gweld y potensial sydd yn y safle gwych hwn."
Mae Parc Felindre ar hen safle Gwaith Tunplat Felindre.
Cliriwyd ac adferwyd y safle tir llwyd yn sgîl partneriaeth menter ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.
Mae PMH wedi sicrhau safle 8 erw ar gyfer Equites a DPD ar brydles 150 mlynedd mewn cytundeb yr ymdriniwyd ag ef ar y cyd gan yr asiantiaid eiddo JLL a Bruton Knowles a thîm adfywio'r cyngor ar ran menter ar y cyd y cyngor a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Heather Lawrence, o JLL, fod Parc Felindre'n un o'r cyfleoedd datblygu mwyaf sylweddol yn ne Cymru sy'n cynnig amgylchedd parc busnes modern â chysylltedd ardderchog yng nghanol Dinas-ranbarth Bae Abertawe."
Meddai Dorian Wragg, o Bruton Knowles, "Mae'r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn golygu bod Parc Felindre gam yn nes at gyflawni ei botensial llawn a chael cydnabyddiaeth fel un o'r datblygiadau masnachol mwyaf sylweddol yn ne Cymru."
Meddai Ross Griffin, pennaeth adran fuddsoddi cangen Caerdydd o gwmni Savills, a fu'n cynghori PMH ar y cytundeb caffael a buddsoddi, "Cydweithiodd fy nghleient â'r cyngor a Llywodraeth Cymru ac roedd yn falch o sicrhau'r cytundeb hwn."
Ariannwyd y gwaith i baratoi'r safle a'r isadeiledd ym Mharc Felindre'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Llun: Ym Mharc Felindre, o'r chwith, gweler Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, a rheolwr eiddo rhanbarthol DPD, Harvey Stokes.