Dysgu yng Nghastell Ystumllwynarth
Gwybodaeth am ymweliadau ysgolion a grwpiau.
Nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd gan ysgolion eleni oherwydd galw mawr ond mae croeso i chi ddod i'n gweld ni eto o fis Ionawr 2020 pan fyddwn yn ailagor i dderbyn ceisiadau eto.
Mae'r castell Normanaidd godidog hwn yn darparu pecyn o gyfleoedd cwricwlwm sy'n addas i blant o'r Cyfnod Sylfaen ymlaen.
Ymysg y pynciau mae:
- Straeon tylwyth teg, dreigiau ac adrodd straeon, wedi'u haddysgu drwy ddefnyddio chwarae a symudiadau creadigol - yn ddelfrydol ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1 a 2.
- Cestyll Normanaidd: ffurf a swyddogaeth, gwarchae ac amddiffyniad.
- Bywyd yng Nghymru'r Oesoedd Canol.
- Arglwyddi Gŵyr a Thywysogion Cymru.
- Yr Amgylchedd Naturiol - defnyddio'r parcdir a'r coetiroedd o gwmpas y castell ar gyfer sesiynau cyfeiriannu, ymchwilio ac ymholi.
Byddai ymweliad â Chastell Ystumllwynarth yn cynnwys:
- Ymweliad ymlaen llaw am ddim ar gais i athrawon weld y cyfleusterau a thrafod a chynllunio eich ymweliad a gaiff ei deilwra i'ch anghenion.
- Adnoddau/taflenni gwaith printiedig i'w defnyddio ar y safle ac ar gyfer gwaith dilynol gyda dewis o weithdai sy'n addas i'r cwricwlwm.
- Taith dywys bersonol (45 munud).
- Mynediad i flwch gwisgo lan a thrin gwrthrychau.
Bydd teithiau ysgol i'r castell fel arfer yn cynnwys sesiwn hanner diwrnod (hyd at 2 awr, 10am-12pm a 12.30-2.30pm), gan ddibynnu ar eich anghenion. Croesewir archebion yn ystod y tymor ar ddydd Mawrth a dydd Iau. Ar hyn o bryd, mae gennym le ar gyfer hyd at 35 o ddisgyblion y sesiwn yn ogystal ag athrawon a rhieni sy'n helpu.
Dylid cadw lle ar gyfer eich ysgol o leiaf 7 i 10 niwrnod cyn yr ymweliad. Mae cyfleoedd hefyd i wneud hyn yn brofiad diwrnod llawn trwy gyfuno'r ymweliad â thaith i Amgueddfa Abertawe yn y bore, a phrynhawn yn y castell. Mae llawer o ffotograffau, gwrthrychau ac arteffactau i ymgyfarwyddo â hwy yn yr arddangosfeydd a'r storfeydd yn yr amgueddfa cyn rhoi'r rhain yn eu cyd-destun yn ystod eich prynhawn yn y castell.
Ar hyn o bryd rydym yn codi £4 y disgybl, sy'n cynnwys yr holl adnoddau a'r gweithgareddau yn ystod eich ymweliad.
I gael mwy o fanylion a chadw lle ar gyfer eich ysgol, cysylltwch ag Cydlynydd Datblygiad Castell Ystym.
Archebion grŵp
Rydym hefyd yn derbyn archebion grŵp a grwpiau ar goetsis yn ôl y trefniadau canlynol:
- Grwpiau dirybudd (hyd at 15 o bobl) - codir y pris mynediad arferol ar bob unigolyn (£4)
Cynigir teithiau tywys am dâl ychwanegol yn ôl disgresiwn y Cyfeillion (£5)
- Grwpiau (dros 15 o bobl) - ffoniwch Cydlynydd Datblygiad Castell Ystymllwynarth ar 07557 481467 i drefnu ymweliad ar wahân ymlaen llaw (£3 y pen heb daith dywys neu £4 gyda thaith dywys)