
Ffordd Ddosbarthu'r Morfa
Mae Ffordd Ddosbarthu'r Morfa wedi'i dylunio i roi hwb i adfywio Coridor Glannau Tawe o Stadiwm Liberty i Heol New Cut.
Bydd y llwybr yn dilyn hen linell Camlas Tawe cyn cysylltu â Heol y Morfa a gaiff ei diweddaru fel rhan o'r cynigion.
Bydd Ffordd Ddosbarthu'r Morfa yn gwella mynediad i swyddi a gwasanaethau, yn agor y coridor y datblygiad, yn lleihau tagfeydd a phroblemau ansawdd aer ar yr A4067, Heol Castell-nedd yn yr Hafod ac yn gwella cysylltiadau cerdded a beicio.
Bydd y ffordd 1.7km yn cynnwys llwybr a rennir 3 metr, ar ei hyd a fydd yn cysylltu â'r llwybr cyfochrog â glannau'r afon ac yn ei ategu; disgwylir i hwn gael ei gwblhau yn y blynyddoedd nesaf yn unol â Strategaeth Coridor Glannau Tawe (2006).
Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn camau i gyd-fynd â chynigion ailddatblygu ar hyd y ffordd ac i alinio â rhaglen ariannu fesul cam. Mae'n cynnwys darparu llwybr troed/llwybr beicio a rennir newydd a bydd yn gwella cysylltiadau â'r ardal Gwaith Copr hanesyddol gerllaw yn ogystal â'r glannau.
Ariennir y prosiect gan Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol Llywodraeth Cymru a chyfraniadau gan ddatblygwyr tir cyfagos.
Gellir cael mwy o wybodaeth drwy lawrlwytho'r ffeil pdf ganlynol
Prosiect Ffordd Ddosbarthu'r Morfa (PDF, 728KB)Yn agor mewn ffenest newydd neu drwy e-bostio transportation@swansea.gov.uk