Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe
Mae Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe'n dod â rhanddeiliaid sefydliadol allweddol ynghyd yn Abertawe i gydlynu adnoddau a datblygu mentrau sy'n cefnogi'r agenda trechu tlodi.
Mae'r fforwm yn ystyried materion cyfredol, tueddiadau a chyfleoedd, mae'n gwella rhwydweithio, gweithio mewn partneriaeth a sut caiff adnoddau eu clustnodi i gefnogi gwell canlyniadau i bobl Abertawe.
Mae blaenoriaethau Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe yn unioni'n fras â gweledigaeth Cyngor Abertawe o geisio cyflawni Abertawe lle:
- Nid yw tlodi incwm yn rhwystr i fod yn llwyddiannus yn yr ysgol, cael bywyd iach a bywiog, datblygu sgiliau a chymwysterau a chael swydd foddhaus.
- Eir i'r afael â thlodi gwasanaethau drwy glustnodi adnoddau lle gallant gael yr effaith fwyaf, gyda phenderfyniadau ar hynny'n cael eu gwneud ar y cyd â defnyddwyr gwasanaethau.
- Mae ein holl breswylwyr yn mwynhau cyfranogi ac mae ganddynt y cyfle a'r adnoddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a hamdden ac wrth wneud penderfyniadau.
- Mae preswylwyr yn mwyafu eu hincwm ac yn gwneud y mwyaf o'r arian sydd ganddynt.
- Mae preswylwyr yn osgoi talu'r 'Premiwm Tlodi', sef y costau ychwanegol y mae'n rhaid i bobl ar incwm isel eu talu am hanfodion megis tanwydd a chludiant.
- Caiff Rhwystrau i Gyflogaeth megis trafnidiaeth a gofal plant eu diddymu.
Mae'r fforwm yn cwrdd bob chwarter a chaiff ei gadeirio gan Wasanaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe.
Mae aelodau'n cynrychioli ystod eang o sefydliadau o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector.
Gall sefydliadau a hoffai ymuno â Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe e-bostio: tacklingpoverty@swansea.gov.uk i gael gwybod mwy.