Chwilio'r wefan
English

Arddangosfa tân gwyllt eleni am ddim i bawb

Eleni, cynhelir Arddangosfa Tân Gwyllt flynyddol Cyngor Abertawe uwchben moroedd eang y bae ar 5 Tachwedd - a bydd am ddim i bawb.

fireworks2013

Fel arfer, cynhelir y digwyddiad ym maes rygbi San Helen, ond bydd arddangosfa tân gwyllt gyffrous eleni'n symud i safle newydd gerllaw a bydd yn hygyrch i bawb fel arddangosfa ar y môr.

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei newid ar gyfer eleni'n unig fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas.

Bydd y traeth yn agored i wylwyr a chaiff y tân gwyllt eu lansio o fad mawr yn y bae. Disgwylir i'r digwyddiad ddenu miloedd o wylwyr a bydd y tân gwyllt i'w gweld ar draws y bae, yn amodol ar y tywydd.

Bwriedir cynnal y digwyddiad rhwng 6pm ac 8pm nos Fawrth, 5 Tachwedd, a bydd y golygfeydd gorau i'w cael o'r prom rhwng y Ganolfan Ddinesig a Lôn Brynmill. Bydd yr arddangosfa ei hun yn dechrau am oddeutu 7pm ac yn para rhyw 20 munud.

Cadwch lygad ar wefan digwyddiadau dynodedig y cyngor - www.joiobaeabertawe.com

Llun: Tân Gwyllt yn Abertawe

Wedi'i bweru gan GOSS iCM