Cwrs am ddim yn rhoi pobl Abertawe ar y llwybr 'ysgrifennu' cywir
Mae pobl Abertawe yn cael eu hannog i fod yn greadigol gyda help myfyrwyr PhD.
Mae'r myfyrwyr yn arwain cwrs ysgrifennu creadigol chwe mis a gaiff ei lansio gan Brosiect Cyfuno Prifysgol Abertawe, Prifysgol Abertawe a Chanolfan Dylan Thomas.
Mae croeso i ysgrifenwyr o bob gallu - o ddechreuwyr i ysgrifenwyr brwd a phrofiadol - ddod i'r dosbarthiadau a gynhelir unwaith y mis.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Gobeithiwn y bydd y sawl sy'n dod yn dysgu sgiliau a all eu cefnogi gyda'u taith greadigol.
"Y nod yw cefnogi creadigrwydd a meithrin hyder. Rydym yn buddsoddi mewn rhaglen ddiwylliannol lawn ar gyfer Abertawe ac mae hyn yn gyflwyniad gwych i'n preswylwyr."
Cynhelir y sesiynau nesaf - yr un rhai ym mhob lleoliad - ddydd Mercher, 26 Chwefror yng nghanolfan Taliesin rhwng 5.30pm a 7.30pm, a dydd Gwener, 28 Chwefror yng Nghanolfan Dylan Thomas o 10am tan ganol dydd.
Rhagor o wybodaeth: E-bostiwch Amina.Abu-Shahba@abertawe.gov.uk