Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd tywydd coch - Storm Darragh

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor a chau lleoliadau ac atyniadau yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd coch.

Hwb Cyn-filwyr Abertawe

Cwmni buddiannau cymunedol a ffurfiwyd ar 24 Awst 2021 gan grŵp bach o gyn-filwyr a oedd wedi profi anawsterau iechyd meddwl yw Hwb Cyn-filwyr Abertawe.

Lle Llesol Abertawe

Ar agor bob dydd Sadwrn 10.00am - 12.00pm, dydd Mawrth 10.00am - 1.00pm, ar gyfer brecwast (dydd Sadwrn), byrbrydau a sesiynau te a choffi.

Croeso cynnes i ystafell fawr gyda golygfa hardd o Fae Abertawe.

Mae ein hwb galw heibio yn cynnal boreau coffi lle gall cyn-filwyr sy'n agored i niwed a chyfranogwyr lleoedd diogel a chynnes ddod at ei gilydd mewn amgylchedd cyfforddus, heb fygythiad, sy'n caniatáu i'n gwirfoddolwyr arbenigol nodi'r bobl mwyaf diamddiffyn, gan gynnig strategaethau lles iddynt, a'u cyfeirio at therapïau a thriniaethau amgen.

  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau / toiledau hygyrch
  • Mannau parcio ceir
  • Gemau / gemau bwrdd
  • Man awyr agored
  • Mae lluniaeth ar gael
    • mae te a choffi am ddim ar gael, a brecwast ar ddydd Sadwrn
  • Dŵr yfed ar gael
  • Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain
  • Teledu
  • Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
    • mae'r Hwb yn gweithredu mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau lleol i ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl a lles a chyfeirio ar gyfer cyn-filwyr, eu teuluoedd a chyfranogwyr lleoedd diogel a chynnes.

Cyfeiriad

Maes San Helen

Bryn Road

Brynmill

Abertawe

SA2 0AR

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Rhif ffôn

07916 227411
Dim rhagor ar gael

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu