Toglo gwelededd dewislen symudol

Anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu

Beth yw'r gwasanaeth? Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae'r Tim Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu (ILICh) yn darparu cefnogaeth ac yn cynnig cyngor ac arweiniad i ysgolion cynradd ac uwchradd yn Abertawe i blant ac oedolion ifanc rhwng 3 ac 19 oed ag anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu (ILICh) gan gynnwys Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA). Cynigir y gwasanaeth i ddisgyblion mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg.

Yn y Tim Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu, mae athrawon arbenigol a chynorthwy-wyr addysgu arbenigol ar gyfer anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu ac anhwylder y sbectrwm awtistig. Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd (ThILI) yn rheoli atgyfeiriadau Gweithredu Ysgol a Mwy (GY+) drwy broses atgyfeirio 'Fforwm Cyfathrebu' sy'n digwydd yn wythnosol ac sy'n cefnogi'r TILICh mewn ysgolion a llwyth achos datganiadau sy'n darparu'r Gwasanaeth Nam Seiniau Lleferydd (NSN) a'r gwasanaethau Anhwylderau Iaith Ddatblygiadol (AID).

Mae gan bob ysgol brif ffrwd athro arbenigol iaith a lleferydd a enwir a mynediad at y Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd. Mae'r TILICh yn cynnig cyngor ac arweiniad i ysgolion cynradd ac uwchradd ar ddeunyddiau ac ar ffyrdd y gallant gefnogi disgyblion ag anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu ac ASA yn y cwricwlwm prif ffrwd. Mae cefnogaeth hefyd i ddatblygu gallu ysgol i reoli anghenion disgybl gan ddefnyddio pecynnau amlgyfrwng Speech Llink a'r pecyn cymorth WellComm i sgrinio a nodi disgyblion y mae perygl y bydd oedi yn natblygiad eu hiaith mewn lleoliadau meithrin.

Mae'r athro arbenigol ASA yn gweithio fel rhan o wasanaeth allgymorth ASA ar y cyd ag Ysgol Arbennig Pen-y-bryn i ddarparu cefnogaeth i ddisgyblion mewn ysgolion prif ffrwd ag anawsterau dysgu cymhleth ac anghenion synhwyriadd ar y cyd a diagnosisau ASA.

Gwneir atgyfeiriadau newydd ar gyfer ASA ac ADHD drwy'r Llwybr Datblygiad Niwrolegol (Llwybr DN) - llwybr bwrdd iechyd lleol sy'n gweithio ar y cyd ag ysgolion i sbarduno atgyfeiriadau. Cynhelir fforymau ar gyfer atgyfeiriadau newydd bob pythefnos i gynorthwyo ysgolion yn y broses hon a'u hysbysebu drwy Raglen Hyfforddiant UADY Abertawe sy'n cael ei hanfon i ysgolion bob tymor.

Gwneir atgyfeiriadau cyn-ysgol drwy'r Tim Iaith a Lleferydd Cyn-ysgol, fel arfer ar y cyd a phaediatregwyr cymunedol, lleoliadau Dechrau'n Deg neu drwy gyswllt gan Ymwelydd Iechyd. Gellir atgyfeirio plant oed meithrin gan ysgolion hefyd os nad idynt yn hysbys i'r gwasanaeth.

Sut gellir cael mynediad at y gwasanaeth? - A phwy y dylid cysylltu?

Gwneir atgyfeiriadau drwy ysgol eich plentyn mewn trafodaeth a'r pennaeth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY).

Cysylltiadau
Tim Therapi Iaith a Lleferydd Prif Ffrwd 
Anna VivianE-bost: anna.vivian@wales.nhs.uk
Huw Beynon, Uwch-athro Arbenigol - TILIChE-bost: huw.beynon@swansea.gov.uk
Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA) 
Claire Warlow, Ahtrawes ArbenigolE-bost: claire.warlow@swansea.gov.uk
Kathryn Ellis, ThILI Arweiniol, YsgolionE-bost: kathryn.ellis@wales.nhs.uk
Tim Cyn-Ysgol 
Sue Koziel, ThILI Arweiniol - cyn-ysgolE-bost: sue.koziel@wales.nhs.uk

 

Close Dewis iaith