Datganiadau i'r wasg Ionawr 2021

Byddwch yn rhan o Ddiwrnod Coffáu'r Holocost
Gwahoddir cymunedau ledled Abertawe i ymuno â'r cyngor ddydd Mercher i nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost.

Cefnogaeth cam-drin domestig 24/7 yn ystod y cyfnod atal byr
Mae cefnogaeth yn parhau i fod ar waith 24/7 yn Abertawe i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig neu sydd mewn perygl o'i ddioddef.
Cyfle i chi ddweud eich dweud am gynigion cyllidebol
Anogir preswylwyr y ddinas i ddweud eu dweud am flaenoriaethau cyllidebol Cyngor Abertawe ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Y cyngor yn dosbarthu 19 miliwn eitem o gyfarpar amddiffyn personol
Ers dechrau pandemig Coronafeirws, mae Cyngor Abertawe wedi dosbarthu tua 19 miliwn eitem o gyfarpar amddiffyn personol (PPE) i staff sy'n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol ac mewn ysgolion.
Pobl yn eu 70au hwyr yn cael eu blaenoriaethu yng Nghanolfan Brechu Torfol newydd Gorseinon
Mae Canolfan Brechu Torfol (CBT) newydd wedi agor yn Abertawe i gynyddu nifer y bobl sy'n cael eu diogelu.

Darpariaeth prydau ysgol am ddim yn parhau drwy'r cyfnod clo
Mae teuluoedd mwy na 8,000 o ddisgyblion yn Abertawe sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yn parhau i gael eu cefnogi yn ystod y cyfnod clo presennol.

Cyrraedd carreg filltir wrth i gartref newydd ysgol gynradd ddatblygu
Cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig iawn wrth adeiladu cartref newydd ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg ffyniannus yn Abertawe.

Buddsoddiad o £4m i wella dysgu digidol mewn ysgolion
Buddsoddwyd mwy na £4m mewn ysgolion Abertawe i wella technoleg ddigidol er mwyn helpu i wella dysgu ac addysgu ar-lein yn ystod y pandemig

Lansio llinell gymorth ar gyfer y rheini sy'n colli allan ar Gredyd Pensiwn
Lansiwyd llinell gymorth am ddim i gefnogi pobl dros 66 oed yn Abertawe sydd efallai'n colli'r cyfle i gael incwm ychwanegol drwy beidio â hawlio budd-daliadau.

Yn ailystyried eich gyrfa yn 2021? Mae Maethu Abertawe yn chwilio am ragor o ofalwyr ar gyfer arddegwyr.
Mae pobl sydd am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc yn Abertawe yn cael eu hannog i ystyried maethu.

Eich cyfle chi i gyflwyno cais am grantiau tlodi
Mae elusennau a gwirfoddolwyr sy'n helpu i roi bwyd ar fyrddau teuluoedd sy'n wynebu caledi yn cael eu hannog i wneud cais am arian fel y gallant wneud hyd yn oed mwy ar gyfer eu cymunedau.

Cofrestrwch ar gyfer cyrsiau ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud
Mae amser o hyd i gofrestru ar gyfer un o bron 40 o gyrsiau ar-lein am ddim a gynhelir yn nhymor y gwanwyn gan Wasanaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Abertawe.
Atgofion Abertawe i barhau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Gallai rhai o straeon hanes cymdeithasol cyfoethocaf Abertawe gael eu cadw ar ffilm a ffeiliau sain cyn bo hir diolch i grant gwerth £10,000 gan Cadw - gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru - a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Y cyngor yn sicrhau grant llinell fywyd COVID-19 ar gyfer adeilad eiconig
Bydd un o adeiladau mwyaf hanesyddol Abertawe yn elwa o grant llinell fywyd gwerth £64,200.
Y cyngor yn datgelu ei Siarter Newid yn yr Hinsawdd
Aelodau o bob rhan o sbectrwm gwleidyddol Cyngor Abertawe yw'r cyntaf i lofnodi Siarter Newid yn yr Hinsawdd y cyngor.

Gwahodd cymunedau i nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost
Gofynnir i gymunedau ar draws Abertawe ymuno â'r cyngor i nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost yn ddiweddarach y mis hwn

Busnesau i dderbyn rhagor o daliadau grant y cyfyngiadau symud
Mae busnesau'r ddinas yn aros i dderbyn cyfran o filiynau o bunnoedd yn rhagor o grantiau i'w cefnogi yn ystod y cyfyngiadau symud diweddaraf.

Rhestr fer y cyngor yn arwain y ffordd ar gyfer cynlluniau adfywio mawr
Mae nifer o bartneriaid posib mawr wedi cyrraedd y rhestr fer i helpu i sicrhau bod gan ganol dinas Abertawe ddyfodol hyderus ar ôl COVID-19.

Dweud eich dweud am ailfodelu ardal allweddol o Farchnad Abertawe
Bydd siopwyr a masnachwyr yn helpu i lunio gwedd newydd ddisglair a fydd yn adfywio ardal allweddol o Farchnad Abertawe.
Miliynau i'w buddsoddi yng ngwasanaethau'r cyngor yn y blynyddoedd i ddod
Mae Cyngor Abertawe yn bwriadu buddsoddi miliynau'n rhagor o bunnoedd mewn gwasanaethau sy'n effeithio ar ein cymunedau bob dydd yn dilyn argyfwng COVID-19.
Translation Required: New cycle paths helping to boost use of bikes
Translation Required: The number of people using Swansea's cycle routes has more than tripled, new figures show.
Cam yn agosach at greu parc sglefrio yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus
Gallai cynlluniau i greu parcio sglefrio newydd ar safle glan môr yn Llwynderw, West Cross, gymryd cam mawr ymlaen yr wythnos nesaf.

Gwasanaethau llyfrgell Abertawe'n parhau i gynnig cymorth hanfodol
Mae llyfrgelloedd ledled Abertawe'n ceisio darparu cymaint o gymorth â phosib i bobl leol wrth i Gymru aros ar Lefel Rhybudd 4.

Hwb ariannol sylweddol i'r Fargen Ddinesig yn y Flwyddyn Newydd
Mae hwb ariannol gwerth £18 miliwn ar y gorwel i gefnogi'r broses o gyflwyno nifer o brosiectau mawr a fydd yn creu miloedd o swyddi â chyflog da i bobl yn ne-orllewin Cymru.
Ambassador Theatre Group yn chwilio am gyflenwyr lleol ar gyfer arena gwbl gyfoes newydd Abertawe
Mae Ambassador Theatre Group (ATG) wedi galw ar fusnesau yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe i gofrestru eu diddordeb mewn darparu gwasanaethau ar gyfer arena gwbl gyfoes newydd Abertawe, sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd fel rhan o ddatblygiad Bae Copr newydd y ddinas.

Bwriad i drawsnewid llwybr ceffylau sydd wedi gordyfu yn Abertawe
Mae llwybr ceffylau sydd wedi gordyfu ac wedi'i esgeuluso mewn cymuned yn Abertawe yn cael bywyd newydd er mwyn ceisio annog mwy o gerddwyr a beicwyr i'w ddefnyddio.

Cerddorion o Abertawe ar yr un donfedd ag Ewrop
Mae cerddorion o bob rhan o Abertawe'n meithrin perthynas newydd ag efeillddinas Mannheim yn yr Almaen.
Y Cyngor yn lansio rownd ariannu newydd i helpu cymunedau
Mae Cyngor Abertawe wedi lansio trydedd rownd o gyllid i gefnogi syniadau sy'n rhoi pobl leol wrth wraidd adeiladu cymunedau cryfach.

Grant beicio'n helpu i achub stryd llawn coed yn Abertawe
Ni fydd stryd yn Abertawe'n gorfod colli ei holl goed diolch i fuddsoddiad o filiynau o bunnoedd i wella'r ddarpariaeth feicio yn y ddinas.
Cymorth banciau bwyd yn parhau i helpu preswylwyr y ddinas
Mae banciau bwyd Abertawe'n parhau i gefnogi dinasyddion yn ystod y pandemig.
Parc sglefrio cam yn nes yn dilyn penderfyniad y Cabinet
Cymerodd datblygiad parc sglefrio newydd ar safle ar lan y môr yn Llwynderw, West Cross, gam mawr ymlaen heddiw.
Poundstretcher yn talu £31,000 ar ôl erlyniad yn ymwneud â bwyd
Gorfodwyd masnachwr disgownt arweiniol i dynnu bisgedi a theisennau oddi ar y silffoedd mewn cannoedd o siopau ledled y wlad ar ôl i swyddogion safonau masnach Abertawe ddarganfod y gallent fod yn peryglu pobl ag alergeddau.

50 o goed newydd i'w plannu ar hyd y llwybr beicio newydd yn Abertawe
Disgwylir i hanner cant o goed gweddol aeddfed gael eu plannu ar hyd un o ffyrdd Abertawe fel rhan o gynlluniau ar gyfer llwybr beicio newydd.

Mae timau ffyrdd Cyngor Abertawe wedi bod yn gwneud gwaith atgyweirio a gwelliannau er gwaethaf y tywydd gwael a heriau'r pandemig.
Yn hwyr y llynedd cytunodd Cabinet Cyngor Abertawe i roi hwb ariannol o £2 filiwn ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wario ar ailwynebu strydoedd mewn lleoliadau o gwmpas y ddinas, gyda mwy i ddilyn yn yr wythnosau i ddod.
Ydych chi'n cael trafferth talu'ch biliau? Ceisiwch help yn fuan
Mae preswylwyr sy'n cael trafferth talu eu biliau Treth y Cyngor neu daliadau eraill yn ystod y pandemig yn cael eu hannog i ofyn am gymorth cyn gynted ag y gallant.

Datblygwyr yn awyddus i ddod â chyfleusterau cyhoeddus i safle gwerthfawr
Datblygwyr yn awyddus i ddod â chyfleusterau cyhoeddus o'r radd flaenaf i safle ar lan y môr nad yw'n cael ei ddefnyddio digon.
Cyhoeddi prif gontractwr ar gyfer gwelliannau mawr i Wind Street
Bydd prif gontractwr De Cymru, Griffiths, yn ymgymryd â gwaith Cyngor Abertawe i greu awyrgylch sy'n fwy addas i deuluoedd yn Wind Street canol y ddinas.
Straeon y Blitz Tair Noson i barhau gyda phrosiect newydd
Anogir pobl Abertawe i adrodd straeon y rheini a fu farw'n drychinebus yn y Blitz Tair Noson.

Cyswllt beicio newydd yng ngogledd y ddinas ar fin agor
Disgwylir i lwybr beicio a cherdded newydd yng ngogledd Abertawe gael ei gwblhau dros yr wythnosau nesaf.