Y cyngor yn lansio menter cyllido torfol i roi hwb i gymunedau
Lansiwyd menter cyllido torfol gan Gyngor Abertawe i helpu i wella cymunedau ledled yr ardal.
Mae'r cyngor wedi ymuno â'r llwyfan cyllido torfol cenedlaethol Spacehive i lansio Cyllido Torfol Abertawe.
Bydd y fenter yn rhoi'r gallu i breswylwyr â syniadau am brosiectau ddenu cyllid gan y gymuned, y cyngor, busnesau a sefydliadau drwy borth ar-lein.
Y nod yw darparu cyfle i syniadau prosiect ddenu'r arian angenrheidiol yn haws, wrth alluogi pawb sy'n meddwl llawer am yr ardal gyfrannu.
Gall prosiectau amrywio o adeiladu canolfan gymunedol newydd neu wella'r parc lleol i wella ardal chwarae neu gynnal gŵyl stryd.
Bydd prosiectau llwyddiannus yn ychwanegol at gynlluniau sydd eisoes yn cael eu cyflwyno gan y cyngor.
Mae Spacehive yn bwriadu cynnal gweithdy yn Abertawe ar 28 Tachwedd; bydd hyn yn helpu'r rheini â syniadau i ddarganfod popeth y mae angen iddynt ei wybod i gymryd rhan yng Nghyllido Torfol Abertawe. I gofrestru am y gweithdy hwn, e-bostiwch Michelle.Parfitt@abertawe.gov.uk.
Llun: Yn y llun yn nigwyddiad lansio Cyllido Torfol Abertawe, o'r chwith: Frank Kibble, o Spacehive; Paul Relf a Martin Nicholls, o Gyngor Abertawe; Caitlin Hicks, o Spacehive; Michelle Parfitt, o'r cyngor; ac Aelod Cabinet y cyngor Andrew Stevens.