Hyfforddiant ymwybyddiaeth o amddiffyn plant/diogelu - lefel 2
Nod y cwrs hwn, sy'n para am ddiwrnod llawn, yw cynnig ymwybyddiaeth o amddiffyn plant a'u rolau a chyfrifoldebau ynghylch diogelu.
Nod y cwrs
- Ailedrych ar y Codau Arfer Proffesiynol
- Ystyried beth yw cam-drin ac esgeulustod
- Deall y gwahaniaeth rhwng y termau 'diogelu' ac 'amddiffyn plant'
- Ystyried y gyfraith o ran plant y mae angen eu hamddiffyn.
- Pwy sy'n cam-drin plant?
- Enwi a diffinio mathau gwahanol o gam-drin (Sylwch Arno)
- Gwybod sut i ymateb os bydd plentyn yn gwneud honiad
- Gwybod sut i adrodd am unrhyw bryderon, ac i bwy i adrodd (Rhowch Wybod Amdano)
Pwy ddylai fynd?
- Gweithwyr amlasiantaeth
- Unrhyw staff â chysylltiad uniongyrchol â phlant mewn amrywiaeth o rolau
Ni fydd angen i weithwyr cymdeithasol plant a theuluoedd cymwys ddod oni bai fod hyfforddiant wedi'i nodi fel angen gan reolwyr.
Cynnwys y Cwrs
Ar ffurf cyflwyniadau, ymarferion, clipiau ffilm a thrafodaethau grŵp.
Dyddiadau | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr |
---|---|---|---|
11 Ebrill 2019 | 10.00am - 4.30pm | Y Ganolfan Ddinesig | Lynsley Haynes-Foster |
13 Mehefin 2019 | |||
26 Medi 2019 | |||
14 Tachwedd 2019 |