Cynllun benthyca newydd ar gael mewn llyfrgelloedd er mwyn cadw Abertawe'n daclus
Mae defnyddwyr llyfrgelloedd yn ysgrifennu eu pennod eu hunain ar weithredu amgylcheddol - drwy fynd i'r afael â sbwriel ar Draeth Abertawe.
Mae grwpiau o ffrindiau, cydweithwyr a pherthnasau'n benthyca offer codi sbwriel o Lyfrgell Ganolog y ddinas sydd ar lan y môr, er mwyn gofalu am y traeth gerllaw.
Maent hefyd yn defnyddio'r offer hwn - a ddarperir i'r llyfrgell gan yr elusen Cadwch Gymru'n Daclus - i godi sbwriel mewn mannau eraill o'r ddinas.
Mae'r offer hyn i oedolion a phlant a ddarperir gan Cadwch Gymru'n Daclus hefyd ar gael yn llyfrgelloedd Townhill a Chlydach.
Llun: Staff Llyfrgell Abertawe'n codi sbwriel gyda'r offer a ddarperir gan Cadwch Gymru'n Daclus.