Toglo gwelededd dewislen symudol

Ministry of Sounds Classical

Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf 2023, Parc Singleton

Ministy of Sound Classical

Ministy of Sound Classical
Gyda gwesteion arbennig Rodger Sanchez / K-Klass / Big Al

Sioe gerddorfaol sy'n dathlu'r anthemau dawns mwyaf poblogaidd yn dod i Abertawe'r haf nesaf!

Y caneuon dawns mwyaf yn cael eu hailddychmygu gyda cherddorfa!

Nid set DJ yw hon! Mae Ministry of Sound yn defnyddio'r caneuon gorau o hanes cerddoriaeth ddawns ac yn eu hail-greu mewn perfformiad cerddorfaol anhygoel gan gerddorfa wych â 30 o offerynnau.

Bydd tir Parc Singleton yn darparu'r cefndir perffaith ar gyfer sioe gerddoriaeth fyw anhygoel wrth i Ministry of Sound Classical ddod i Abertawe'r haf nesaf ar 22 Gorffennaf 2023.

Does dim un clwb yn fwy eiconig na Ministry of Sound. Roedd y lleoliad enwog yn Llundain wrth wraidd byd cerddoriaeth 'house' y 1990au ac mae'n un o'r brandiau byd-eang mwyaf ym myd cerddoriaeth ddawns.

Yn sioe Ministry of Sound Classical caiff eich hoff ganeuon dawns eu haildrefnu, eu hailddychmygu a'u hail-fyw gyda cherddorfa wych â 30 o offerynnau, DJs o'r radd flaenaf, cantorion arbennig a phrofiad sain a golau hollol unigryw.

Rhagor o wybodaeth a tocynnau Ministry of Sound Classical (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith