Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Yr Arglwydd Faer

Y Cynghorydd Graham Thomas.

Lord Mayor 2023-24, Councillor Graham Thomas

Cafodd Graham ei eni a'i fagu'n Nhrefansel, Abertawe, a'i ethol yn Gynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer Ward Cwmbwrla ym 1999.  Roedd yn un o bump o blant, 4 bachgen ac un ferch.  Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Fodern Trefansel cyn ennill Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Addysg Bellach Abertawe.

Roedd swydd gyntaf Graham gyda Bwrdd Trydan De Cymru ac yna treuliodd bedair blynedd gyda Bwrdd Dŵr Gorllewin Morgannwg cyn symud i'r Gwasanaeth Sifil gyda'r DVLA.  Cyfarfu Graham â Kathy pan oedd yntau'n gweithio yn y DVLA ac fe briodon nhw ym 1978.  Magwyd Kathy yng Nghaint lle'r aeth i Ysgol Ramadeg i Ferched Maidstone.  Mynychodd Brifysgol Abertawe fel myfyriwr hŷn ac enillodd Ddoethuriaeth mewn Geneteg. Bu'n gweithio yn Ysbyty'r Mynydd Bychan yng Nghaerdydd ar Ymchwil Lewcemia cyn ymuno ag Ysgol Tre-gŵyr i addysgu Gwyddoniaeth.

Mae ganddynt ddau fab, David a Gareth.  Mae David yn briod â Melanie ac mae ganddo ferch o'r enw Elsie sy'n 10 oed, ac maen nhw'n byw yn Leamington Spa.  Mae David yn Bennaeth Hanes, Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg yn Ysgol Eglwys Loegr Blue Coat yng Nghofentri.  Mae Gareth yn Bartner gyda chwmni cyfreithiol Kennedys yn ninas Llundain, ac mae'n byw yn Bermondsey gyda'i bartner Frankie.

Mae Graham yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Burlais (Ysgolion Trefansel a Chwmbwrla gynt) ac Ysgol Pentrehafod ac mae wedi bod yn llywodraethwr ers i'w feibion fynychu'r ysgol gyntaf.  Ar hyn o bryd mae'n Is-Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Pentrehafod.

Penodwyd Graham yn Aelod y Cabinet dros Dai (2004-2008) ac yn Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth (2008-2012), yna cafodd ei benodi'n Gadeirydd Cwmni Rheoli Stadiwm Abertawe a gwasanaethodd fel Aelod o'r Bwrdd ar gyfer Partneriaeth Twristiaeth De-orllewin Cymru, Pwll Cenedlaethol Cymru a Chwarae Cymru.

Mae Graham yn mwynhau cerdded a theithio ac mae ganddo docyn tymor i wylio'r Elyrch yn chwarae pryd bynnag y bo modd.

Mae Graham a Kathy wedi dewis cefnogi Friends of the Young Disabled, Abertawe a Crisis Skylight fel elusennau'r Arglwydd Faer ar gyfer 2023/24.

Cronfa Elusen yr Arglwydd Faer 2023-2024

Cronfa Elusen yr Arglwydd Faer 2023-2024

Gallwch gyfrannu i Gronfa Elusen yr Arglwydd Faer ar-lein.
Close Dewis iaith