Datganiadau i'r wasg Mai 2019

Cynlluniau am safle newydd ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg wedi'u cyflwyno
Cyflwynwyd cynlluniau am safle newydd ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg lwyddiannus â lleoedd ar gyfer disgyblion ychwanegol a chanolfan Dechrau'n Deg i gynllunwyr y cyngor.
Fideo yn rhoi hwb i Abertawe 50
Mae fideo cerddoriaeth a lansiwyd heddiw yn cynnig cipolwg cyffrous ar un o ddathliadau cynnar Abertawe 50.
Baneri ar y stryd yn croesawu'r byd i ddathliadau hanner can mlynedd
Mae baneri croesawu ac addurniadau stryd eraill sy'n dathlu hanner canmlwyddiant ers i Abertawe ddod yn ddinas wedi bod yn cael eu gosod ar oleuadau stryd mewn lleoliadau allweddol yng nghanol y ddinas ac ar hyd Heol Ystumllwynarth.

Mae pawb yn adnabod rhywun sy'n haeddu gwobr Rho 5
Mae'r gwaith chwilio wedi dechrau er mwyn dod o hyd i sêr Rho 5 Abertawe wrth i'r gwobrau ar gyfer pobl ifanc ysbrydolus gyrraedd eu hwythfed tymor.

300 yn ymateb i ymgynghoriad wrth i reolwr twristiaeth groesawu trafodaeth
Mae arweinwyr twristiaeth wedi croesawu ymgynghoriad ar sut gellid defnyddio sawl llain o dir sy'n eiddo i'r cyngor yn y dyfodol.

Coleg Adfer yn cynyddu cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr
Mae gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd ac addysg yn Abertawe wedi dod at ei gilydd i lansio menter newydd yn y ddinas i gefnogi pobl wrth iddynt adfer o salwch meddwl.
Y cyngor yn gofyn i'r cyhoedd: Sut allwn ni wneud y defnydd gorau o safleoedd arfordirol?
Mae Cyngor Abertawe'n gofyn i'r cyhoedd sut y dylid defnyddio sawl llain o dir y mae'r cyngor yn berchen arni yn eu tyb hwy.

Helpwch i newid bywydau yn ystod Pythefnos Gofal Maeth
Mae gofalwyr maeth yn Abertawe wedi bod yn trafod yr effaith gweddnewidiol maent wedi'i wneud ar fywydau ifanc ar gychwyn Pythefnos Gofal Maeth.

Pride Abertawe yn addo awyrgylch carnifal yng nghanol y ddinas
Bydd digwyddiad Pride mwyaf erioed Abertawe'n llenwi canol y ddinas ddydd Sadwrn.Mae Pride Abertawe'n bwriadu dod ag awyrgylch carnifal i Sgwâr y Castell wrth i wythnos o ddathliadau ddod i ben gyda diwrnod o liw, cerddoriaeth ac adloniant gyda gorymdaith yn dechrau am 11am.

Cefnogaeth i ysgolion wrth i'r cyfnod cyn y cwricwlwm newydd ddod i ben
Darperir cefnogaeth i ysgolion yn Abertawe i'w helpu wrth lunio'r Cwricwlwm i Gymru newydd fel ei fod yn diwallu anghenion holl ddisgyblion y ddinas.

Adnewyddu addewid y ddinas i'r lluoedd arfog
Bydd Cyngor Abertawe a'i bartneriaid yn cadarnhau addewid i roi cefnogaeth deg i aelodau'r lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd.
Teithiau tywys yn rhoi cyfle i'r cyhoedd weld gorffennol a dyfodol Abertawe
Mae cyfres newydd o deithiau cyhoeddus ar y gweill yn un o ddiwydiannau pwysicaf Abertawe.

Tai cyngor newydd ar gyfer tenantiaid arbennig
Gall tai newydd sy'n cael eu hadeiladu gan Gyngor Abertawe fod yn gartrefi i fath arbennig iawn o denant nad yw'n talu rhent ac sy'n gallu mynd a dod fel y myn.

Proms yn y Parc yn dychwelyd i Abertawe fel rhan o ddathliadau ei hanner canmlwyddiant
Bydd Proms yn y Parc, un o uchafbwyntiau bythol boblogaidd calendr diwylliannol Prydain, yn dychwelyd i Abertawe'n ddiweddarach eleni.
Plastig ailgylchadwy Abertawe'n ateb y galw yn y DU
Mae ymdrechion gan breswylwyr yn Abertawe wedi arwain at fwy o gyfleoedd gyda chwmnïau ailgylchu yn y DU ynghylch y deunydd a gesglir o strydoedd yn y ddinas.

Gwyliau gartref yn rhoi hwb i fusnesau twristiaeth yn Abertawe
Mae Prydeinwyr sy'n dewis aros yn y DU am eu gwyliau yn helpu i roi hwb i fusnesau a swyddi twristiaeth yn Abertawe, yn ôl ffigurau newydd.

Wedi cael strôc? Gadewch i gerddoriaeth eich helpu i wynebu'ch heriau
Mae cynllun newydd sy'n defnyddio pŵer cerddoriaeth yn helpu pobl Abertawe i fynd i'r afael ag effeithiau strôc.
Gwaith ar Ffordd y Brenin yn gwneud cynnydd tuag at benodi contractwr newydd
Mae gwaith gwerth £12m i drawsnewid Ffordd y Brenin a'i strydoedd cyfagos yn parhau i wneud cynnydd.

Heliwr tanfor i serennu yn Sioe Awyr Cymru 2019
Bydd awyren fôr ddeniadol yn rhan o Sioe Awyr Cymru'r haf hwn - 75 o flynyddoedd ar ôl iddi fod yn hela llongau tanfor y gelyn yn yr Ail Ryfel Byd.
Arddangosfa deithiol yn helpu i nodi 50 mlynedd gyntaf Abertawe fel dinas
Bydd ysgolion yn arddangos baneri a fydd yn amlinellu hanes cyfoethog Abertawe wrth i ddathliadau hanner canmlwyddiant y ddinas ddatblygu.

Gŵyl gelf Cymru gyfan yn dod i Abertawe
Gall pobl dros 50 oed yn Abertawe fwynhau digwyddiad celf am ddim yn Oriel Gelf Glynn Vivian y ddinas wythnos nesaf.

Uwchgynhadledd i fusnesau twristiaeth wedi'i threfnu
Gwahoddir busnesau twristiaeth lleol i ychwanegu agweddau newydd at eu trefniadau marchnata'r wythnos nesaf.
Mumbles Road lights upgrade essential
Motorists in Swansea are being warned that traffic queues could worsen on key routes unless essential signal upgrades are completed at its busiest junctions.

Hwyl gyda Dylan er mwyn ysbrydoli dinasyddion ifanc Abertawe
Bydd awduron ifanc Abertawe'n dwyn ysbrydoliaeth o ddawn a sgiliau Dylan Thomas dros y ddau benwythnos nesaf.

Arena Abertawe: Contractwyr ar fin mynd i'r safle
Bydd arena ddigidol Abertawe i 3,500 o bobl yn symud gam ymlaen yr wythnos hon
Hoffech chi fod yn fasnachwr marchnad? Gallwch roi cynnig ar wneud hyn am £10!
Mae Marchnad Abertawe'n cynnig y cyfle i fasnachwyr sefydlu stondin - am £10 y diwrnod yn unig!
Sêr y Vetch yn helpu disgyblion i ddathlu hanner canmlwyddiant y ddinas
Mae tri o arwyr Cae'r Vetch yn Abertawe wedi helpu disgyblion ysgol i ddathlu hanner canmlwyddiant y ddinas.

Tîm Arddangos Typhoon yr RAF yn hedfan yn Sioe Awyr Cymru
Bydd Tîm Arddangos Typhoon yr RAF yn hedfan dros Abertawe'r haf hwn.

Cynghorydd hir ei wasanaeth yn dod yn Arglwydd Faer Abertawe
Mae dau o'r cynghorwyr sydd wedi gwasanaethu Abertawe hwyaf bellach yn Arglwydd Faer ac yn Ddirprwy Arglwydd Faer y ddinas.
Y cyngor yn sicrhau partneriaid i helpu ar gyfer ystyried cynlluniau newydd ar gyfer Sgwâr y Castell
Bydd tîm datblygu o'r radd flaenaf yn helpu i greu gweledigaeth gyffrous newydd ar gyfer ardal Sgwâr y Castell yng nghanol dinas Abertawe.

Energy Island vision for new tidal lagoon in Swansea Bay
New plans for a tidal lagoon as part of a major renewable energy development in Swansea Bay are financially viable, according to an independent report.
Achos llys ar ôl i goed a warchodir gael eu torri i lawr
Mae camau gweithredu cyfreithiol yn cael eu cymryd gan Gyngor Abertawe ar ôl i 70 o goed a warchodir gael eu tocio heb ganiatâd.
Dechrau gwella goleuadau traffig Lôn Sgeti
Cynhelir gwaith gwella anochel ar hen oleuadau traffig ar brif gyffordd yn Abertawe er mwyn ceisio cadw traffig i symud yn y dyfodol.

Llofnodi cytundeb newydd i wella twristiaeth yn Abertawe
Mae partneriaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ar draws Abertawe wedi llofnodi cytundeb newydd i wella masnach twristiaeth ffyniannus yr ardal.
Paentiad eiconig o Dylan Thomas yn cyrraedd Abertawe am y tro cyntaf
Mae paentiad o'r bardd o Abertawe Dylan Thomas o gasgliad yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn cael ei arddangos yn y ddinas am y tro cyntaf.
Beth yn y byd? Mae gan Old Nick Abertawe gartref newydd
Mae gan un o breswylwyr mwyaf adnabyddus Abertawe gartref newydd wrth i'r ddinas ddathlu 50 mlynedd fel dinas.

Cwmni awyr erobatig i serennu yn Sioe Awyr Cymru 2019
Bydd unig gwmni awyr erobatig y byd yn difyrru degau ar filoedd o bobl yn Abertawe eleni.

Sioe Awyr Cymru yn argoeli i fod yn fwy nag erioed
Disgwylir i Sioe Awyr Cymru fod yn fwy ac yn well nag erioed yr haf hwn fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Abertawe.
Llyfrgelloedd yn cefnogi ymgyrch tlodi'r misglwyf
Mae llyfrgelloedd y cyngor ac adeiladau cyhoeddus eraill yn Abertawe'n paratoi i gefnogi grŵp newydd sy'n mynd i'r afael â thlodi'r misglwyf.