Chwilio'r wefan
English

Marchnad Abertawe: Un o 10 o farchnadoedd gorau Prydain!

Gallai Marchnad Abertawe gael ei henwi'n hoff farchnad Prydain cyn bo hir.

MarketTop10

Mae wedi cyrraedd y 10 gorau yng nghategori 'hoff farchnad' Gwobrau Marchnadoedd Prydain Fawr 2020. Nid oes unrhyw ardaloedd eraill yng Nghymru ar y rhestr fer.

Mae'r farchnad, a reolir gan Gyngor Abertawe, yn gartref barhaol i dros 100 o fusnesau. Mae hefyd yn derbyn masnachwyr teithiol, yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ac yn denu tua 80,000 o siopwyr yr wythnos.

Mae lleoliadau eraill sydd wedi cyrraedd 10 gorau cystadleuaeth Hoff Farchnad Prydain 2020 yn cynnwys Caer, Hull, Newcastle upon Tyne ac Amwythig.

Bydd unrhyw bleidleisiau gan y cyhoedd sydd eisoes wedi'u derbyn ar gyfer pob marchnad yn cyfrannu at y canlyniad terfynol, ac mae Cymdeithas Genedlaethol Awdurdodau Marchnadoedd Prydain bellach yn dechrau ar y broses feirniadu. Disgwylir i'r enillwyr gael eu cyhoeddi tua diwedd y mis nesaf.

Mwy: www.nabma.com/great-british-market-awards-2020/

Llun: Marchnad Abertawe

Wedi'i bweru gan GOSS iCM