Ffyrdd canol y ddinas i gael wynebau newydd
Caiff wynebau ffyrdd newydd eu gosod yr wythnos nesaf(sylwer yr wythnos sy'n dechrau 14 Hydref) wrth i brosiect mawr i adfywio canol dinas Abertawe symud yn ei flaen.
Mae'r gwaith pwysig - a gaiff ei wneud yn ystod y nos - yn rhan o gynllun Ffordd y Brenin Cyngor Abertawe sy'n werth £12 miliwn.
Gosodir tarmac ffres ar gyffyrdd Ffordd y Brenin â:
- Heol San Helen a Stryd Dilwyn
- Stryd Christina
- Stryd y Berllan, Stryd y coleg a Ffordd Belle Vue
Bydd y gwaith yn golygu y gellir cwblhau prif gylchfan y tu allan i dafarn y Potters Wheel a chroesfannau newydd i gerddwyr.
Meddai Mark Thomas, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Mae'r gwaith ailwynebu'n dasg enfawr felly byddwn yn cau rhai ffyrdd dros dro yn ystod y nos am ychydig ddyddiau.
"Bydd dargyfeiriadau ar waith ar adegau tawel a hoffwn ddiolch ymlaen llaw i ddefnyddwyr y ffordd, busnesau ac eraill am eu dealltwriaeth."