At sylw busnesau: cyngor ar brofion i'ch gweithwyr
Sut gall rhaglen newydd Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru helpu i ddiogelu eich staff a'ch busnes (ar gyfer busnesau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot).
Os oes unrhyw aelodau o'ch staff yn dangos symptomau Coronafeirws, mae cael eu profi am y feirws yn hanfodol.
Bydd yn helpu i leihau ymlediad y feirws, yn ein helpu i olrhain eraill sydd efallai wedi'u heintio ac yn galluogi'r rheini sy'n profi'n negyddol i ddychwelyd i'r gwaith yn gynt.
Yr hyn yr hoffem i chi ei wneud:
- Helpu i gadw'ch staff yn ddiogel drwy ddilyn arweiniad Llywodraeth Cymru ynghylch Coronafeirws yma: https://llyw.cymru/coronafeirws
- Cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith eich staff am wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu'r GIG
- Annog eich staff i gael eu profi os oes ganddynt symptomau'r feirws
- Ein helpu i olrhain y bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif
- Rhannu â'ch staff ddolenni at wefannau'n gwasanaeth iechyd lleol a Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r feirws
- Gallwch ddod o hyd i bosteri defnyddiol a lawrlwythiadau eraill ar gyfer eich gweithle yma: https://llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-pecyn-cymorth-ar-gyfer-cyflogwyr-gweithwyr-hanfodol
Mae manylion am y gwasanaeth Profi ac Olrhain, sut mae'n gweithredu ac ym mhle y gallwch ddod o hyd i'n canolfannau profi ar gael ar wefan BIPBA yma: https://bipba.gig.cymru/coronafeirws-covid-19/coronafeirws-covid-19/gwasanaeth-profi-olrhain-amddiffyn/
Mae rhagor o wybodaeth am Brofi, Olrhain, Diogelu, gan gynnwys cyngor i fusnesau a gweithwyr, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn: https://llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-canllawiau-i-gyflogwyr
Drwy weithio gyda'n gilydd gallwn chwarae ein rhan wrth alluogi Llywodraeth Cymru i lacio'r cyfyngiadau symud ac annog adferiad economaidd yn ein cymunedau, a chyda'n gilydd byddwn yn helpu i gadw Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ddiogel.
Darllenwch ragor am ymateb Llywodraeth Cymru i Coronafeirws yma: https://llyw.cymru/coronafeirws