Toglo gwelededd dewislen symudol

Fodurwyr i elwa o brif ffordd wedi'i gwella wrth i waith ar yr arena fynd rhagddo

Cyn bo hir bydd gan fodurwyr arwyneb newydd llyfn ar ffordd allweddol yn Abertawe wrth i un o brif byrth y ddinas gael ei adnewyddu.

Oystermouth Road and the arena

Oystermouth Road and the arena

 

Bydd contractwyr yn ailwynebu rhan o Oystermouth Road ger yr LC a'r arena newydd a byddant yn credu mynedfeydd ac allanfeydd ar gyfer dau faes parcio newydd.

 

Bydd yn golygu profiad gyrru gwell i'r miloedd o yrwyr sy'n defnyddio'r brif ffordd bob dydd, ac yn rhoi gwell argraff i ymwelwyr.

 

Bydd systemau draenio'n cael eu gwella a bydd y gwaith ar y mynedfeydd yn gam mawr ymlaen i ddau faes parcio Bae Copr y disgwylir iddo agor yr hydref hwn.

 

Bydd porth y ddinas ar ei newydd wedd yn cynnwys yr arena gyda chragen allanol lliw aur, waliau byw ar hyd ochr maes parcio newydd a pharcdir newydd ar ben y maes parcio.

 

Mae'r gwaith yn cael ei wneud ar gyfer Cyngor Abertawe sy'n datblygu Bae Copr.

 

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Mark Thomas, "Mae modurwyr yn dweud wrthym eu bod am gael yr arwynebau ffordd gorau posib ac rydym wedi gwneud peth gwaith ailwynebu o gwmpas y ddinas dros y misoedd diwethaf fel rhan o'r £5.3m rydym yn ei fuddsoddi mewn ffyrdd eleni

 

"Gyda'r gwaith ar yr arena sy'n rhan o gynllun adfywio gwerth £135m Bae Copr bron â chael ei gwblhau, dyma'r amser i wella'r rhan honno o Oystermouth Road a chreu'r mynedfeydd a'r allanfeydd hyn ar gyfer y meysydd parcio newydd.

 

"Hoffem ddiolch i fodurwyr a phreswylwyr lleol ymlaen llaw am eu dealltwriaeth wrth i'n contractwyr gyflawni'r gwaith - maent yn bwriadu sicrhau cyn lleied o darfu â phosib.

 

"Bydd y gwaith yn helpu i gyflwyno porth newydd syfrdanol i'r ddinas sy'n dangos i ymwelwyr fod Abertawe'n lle y mae pobl am weithio, byw a threulio amser rhydd o ansawdd."

 

Disgwylir i'r gwaith ffordd gael ei wneud ar ran o'r ffordd sy'n ymestyn ychydig gannoedd o lathenni o 20 Medi tan 18 Hydref.

 

Mae hyn yn golygu y bydd Oystermouth Road yn cael ei chau'n rhannol rhwng 8pm a 6am (Dydd Llun- Dydd Gwener), rhwng ei chyffyrdd â West Way a Princess Way.

 

Yn ystod cam cyntaf y gwaith, o 20 Medi, bydd yr holl lonydd tua'r gorllewin o'r rhan hon yn cael eu cau a bydd dargyfeiriadau ar waith; yn yr ail gam bydd y lonydd tua'r dwyrain o'r rhan hon ar gau a bydd dargyfeiriadau ar waith. Bydd arwyddion i ddangos dargyfeiriadau, gan ddefnyddio West Way, Ffordd y Brenin, Mansel Street, New Orchard Road a New Cut Road.

 

Cynhelir mynediad i gerbydau brys, cerddwyr a phreswylwyr. Ni fydd y gwaith hwn yn effeithio ar fynedfeydd i feysydd parcio'r Cwadrant, Tesco'r Marina a'r Marina.

 

Delwedd: Cipolwg o sut bydd y rhan newydd o Oystermouth Road yn edrych ochr yn ochr â'r arena newydd, ei pharcdir arfordirol a'i maes parcio cyfagos.

Close Dewis iaith