Abertawe'n chwifio'r faner ar gyfer noson allan gwych
Mae canol dinas Abertawe wedi llwyddo i gadw ei statws Baner Borffor mawreddog ar gyfer 2019.
Mae statws y Faner Borffor, a reolir gan Gymdeithas Rheoli Canol Trefi a Dinasoedd, yn gwobrwyo canol dinasoedd sy'n cynnig noson allan ddifyr, amrywiol, ddiogel a phleserus i'w hymwelwyr.
Enillodd canol dinas Abertawe'r statws am y tro cyntaf bedair blynedd yn ôl, i gydnabod bod Abertawe'n cynnig economi nos ragorol rhwng 5pm a 5am.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'n wych ein bod yn cadw'r statws Baner Borffor mawreddog unwaith eto; dyma bluen arall yn ei het wrth i ni ddathlu'n hanner canmlwyddiant cyntaf fel dinas."
Mae partneriaid sy'n ymwneud â rheoli economi nos Abertawe'n cynnwys Cyngor Abertawe, BID Abertawe (Rhanbarth Gwella Busnes), Heddlu De Cymru, gweinidogion stryd Abertawe, Ambiwlans Sant Ioan, Gŵyl Ymylol Abertawe, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, nifer o fusnesau yng nghanol y ddinas, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (PABM), Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Tai Coastal a sawl datblygwr.
Llun: canol dinas Abertawe gyda'r hwyr.