Datganiadau i'r wasg Rhagfyr 2020

Cynlluniau wedi'u trefnu ar gyfer ailagor ysgolion ym mis Ionawr
Bydd ysgolion Abertawe'n dechrau ailagor ddydd Mercher 6 Ionawr ar ôl gwyliau'r Nadolig a disgwylir y bydd y rhan fwyaf o ysgolion wedi ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb erbyn 11 Ionawr.
Newyddion diweddaraf: Bydd Abertawe a gweddill Cymru'n cael eu rhoi dan gyfyngiadau lefel rhybudd 4 o hanner nos heno, 19 Rhagfyr
Cyhoeddwyd y penderfyniad heddiw gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford

Ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd yn datblygu
Mae cartref newydd ar gyfer YGG Tirdeunaw yn Abertawe'n dechrau datblygu gyda ffrâm ddur ar gyfer y datblygiad gwerth £11.5m yn cael ei chodi.

Ysgolion Abertawe i gyflwyno dysgu cyfunol
Bydd holl ysgolion Abertawe'n cyflwyno dysgu cyfunol o ddydd Llun yn dilyn y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.

Gwaith yn cael ei wneud i amddiffyn twyni tywod
Mae gwaith yn cael ei wneud i wella bioamrywiaeth yn y twyni tywod ger marina Abertawe ac i amddiffyn rhywogaethau brodorol rhag ddinistrio'r cynefin.
Pennaeth iechyd yn rhybuddio y gall fod trychineb os nad ydym yn dilyn rheolau COVID-19
Mae arbenigwr iechyd wedi rhybuddio y gallai lefelau Coronafeirws yn ardal Bae Abertawe gyrraedd lefelau trychinebus yn fuan oni bai fod pobl yn dilyn y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol yn ystod tymor y Nadolig.
Diwrnod Hawliau'r Gymraeg.
Mae'n Ddiwrnod Hawliau'r Gymraeg heddiw (Dydd Llun, Rhagfyr 7), digwyddiad blynyddol a drefnwyd ac a hyrwyddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg i ddathlu gwasanaethau Cymraeg a'r hawliau sydd gan bobl i ddefnyddio'r iaith.

Cynhaliodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch archwiliadau ar hap mewn sampl o 10 o ysgolion yn Abertawe.
Canmolwyd disgyblion a staff yn ysgolion Abertawe am eu hymroddiad i lynu wrth rheoliadau COVID-19 yn dilyn archwiliadau ar hap gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Cyngor Abertawe'n buddsoddi £20,000 i roi hwb i ymdrechion cyllido torfol cymunedol
Mae cynllun ar gyfer offer dringo newydd i blant yn eu harddegau a chynllyn e-feiciau cymunedol wedi denu cymorth ariannol gan Gyngor Abertawe.

Gweinidog yn canmol prosiectau disgyblion yn ystod ymweliad rhithwir
Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi ymweld yn rhithwir ag ysgol yn Abertawe i weld sut mae ei grwpiau menter yn defnyddio'r Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Arweinwyr cynghorau'n galw am becyn cymorth i gynorthwyo dinasoedd
Mae arweinwyr y tri chyngor mawr yng Nghymru yn galw am becyn cymorth cynhwysfawr a sylweddol i helpu dinasoedd drwy'r pandemig.
Debenhams
Datganiad gan arweinydd y cyngor Rob Stewart

Yma dros y Nadolig - Llyfrgelloedd Abertawe
Mae llyfrgelloedd ar draws Abertawe'n bwriadu darparu cymaint o hwyl â phosib y Nadolig hwn.

Ysgol yn dathlu 40 mlynedd o wasanaeth goruchwyliwr amser cinio
Yn ystod y flwyddyn y dechreuodd Elaine Sommers weithio yn Ysgol Gynradd Penyrheol, etholwyd Ronald Reagan yn Llywydd yr Unol Daleithiau, roedd ABBA ar frig y siartiau ac roedd gwylwyr ar draws y byd yn gwylio'r ddrama sebon Dallas i weld pwy saethodd JR.

Hwb digidol gwerth miliynau o bunnoedd i ddiogelu'r Dinas-ranbarth i'r dyfodol
Mae buddsoddiad gwerth £55 miliwn a fydd yn helpu i ddiogelu seilwaith digidol Dinas-ranbarth Bae Abertawe tuag at y dyfodol wedi cymryd cam mawr ymlaen.
Parc sglefrio arfaethedig: y broses yn parhau
Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi dechrau heddiw fel rhan o broses a all arwain at ddatblygu parc sglefrio ar safle ar lan y môr yn Llwynderw, West Cross.

Cytundeb tai fforddiadwy'n cael ei lofnodi fel rhan o'r gwaith gwerth £1biliwn i adfywio Abertawe
Mae Cyngor Abertawe wedi llofnodi cytundeb gyda grŵp Pobl, Landlord Cymdeithasol Cofrestredig mwyaf Cymru, i reoli 33 o fflatiau fforddiadwy fel rhan o Gam Un prosiect adfywioBae Copr.

Yr Arglwydd Faer yn diolch i arwyr chwarae di-glod
Mae'r Arglwydd Faer wedi diolch i wirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser eu hunain i gefnogi cyfleoedd chwarae plant ar draws Abertawe.

Cyfleusterau mewn ysgol ffyniannus yn parhau i wella
Mae cyfleusterau addysg, y celfyddydau a chwaraeon awyr agored mewn ysgol gyfun ffyniannus yn Abertawe yn cael eu hailwampio a'u diweddaru i wella amgylchedd yr ysgol ar gyfer disgyblion, staff a'r gymuned ehangach.

Cais am bum mlynedd arall ar gyfer y Rhanbarth Gwella Busnes
Mae sefydliad busnes sydd wedi helpu i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi canol dinas Abertawe drwy bandemig COVID-19 ar fin holi barn ei aelodau am bedwerydd tymor y flwyddyn nesaf.

Cynlluniau ar gyfer Wind Street sy'n addas i deuluoedd yn cymryd cam mawr ymlaen
Disgwylir i Gabinet Cyngor Abertawe gymeradwyo buddsoddiad o bron £3m i wella Wind Street yng nghanol y ddinas.

Caniatâd cynllunio'n cael ei roi i ddod â bywyd newydd i drysor hanesyddol
Mae caniatâd cynllunio wedi'i roi i adnewyddu ac addasu adeilad hanesyddol Theatr y Palace yn Abertawe.

Miliynau'n rhagor i helpu i atgyweirio ffyrdd y ddinas
Bydd gwelliannau ac atgyweiriadau ffyrdd yn cael hwb ariannol o £2m dros y misoedd nesaf dan gynigion y bydd Cabinet Cyngor Abertawe yn eu gweld yr wythnos nesaf.
Translation Required: Museum Park Christmas attraction to close
Translation Required: All of Swansea's Museum Park Christmas attractions will close tomorrow night, December 12.

Bydd gorsafoedd pleidleisio etholiad y Senedd yn lleoedd diogel
Bydd pobl Abertawe'n pleidleisio'r flwyddyn nesaf ar gyfer etholiad y Senedd ac mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Etholiadau i sicrhau bod y profiad yn ddiogel i bleidleiswyr.
Y cyngor yn ymgynghori ar gynlluniau i gyflwyno pwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol ychwanegol
Bydd Cyngor Abertawe'n ymgynghori â phreswylwyr a busnesau ar gynlluniau i gyflwyno pwerau newydd i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn rhai ardaloedd yn ein dinas.
Coed ceirios yn dod â llawenydd newydd i barciau'r ddinas
Mae ymwelwyr âdau barc yn Abertawe'n mwynhau'r olygfa drawiadol o 100 o goed ceirios newydd.

Help ar gyfer pobl ddigartref yn Abertawe'r Nadolig hwn
Mae mesurau'n cael eu rhoi ar waith i helpu pobl ddigartref ar draws Abertawe yn ystod cyfnod yr ŵyl.
Translation Required: Swansea Bay residents urged not to party with friends this Christmas
Translation Required: Residents across Swansea Bay are being urged not to go to festive parties or meet friends and family this Christmas season.

Miliynau'n rhagor yn cael eu talu i gefnogi busnesau drwy COVID-19
Mae Cyngor Abertawe wedi talu miliynau o bunnoedd yn ychwanegol i gefnogi busnesau lleol i ddiogelu swyddi a dod drwy waethaf COVID-19.

Arddangosfa stondin yn y farchnad yn ennill gwobr y Nadolig
Enwyd busnes teuluol poblogaidd fel y stondin mwyaf atyniadol ym Marchnad Abertawe y Nadolig hwn.

Papur lapio yn gallu wedi'i gynnwys ar gyfer ailgylchu
Bydd aelwydydd yn Abertawe yn gallu ailgylchu rhagor o'u gwastraff y Nadolig eleni.
Llywodraeth Cymru i anfon cyngor wedi'i ddiweddaru at y bregus ynghylch Covid-19
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y dylai'r rheini yr oedd angen iddynt warchod yn ystod cyfyngiadau symud cyntaf eleni gymryd camau pellach i amddiffyn eu hunain rhag COVID-19.

Y Sefyllfa Ddiweddaredig o ran Ysgolion Abertawe'n dychwelyd i Ddysgu Wyneb yn Wyneb
Mae holl ysgolion Abertawe'n bwriadu dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb o ddydd Llun 11 Ionawr yn hytrach na 6 Ionawr.