Toglo gwelededd dewislen symudol

Enfysau ffordd i ychwanegu lliw at Wind Street gynhwysol y ddinas

Bydd tair enfys drawiadol yn ychwanegu lliw a mwy o fywiogrwydd at Wind Street, cyrchfan drwy'r dydd newydd Abertawe.

Rainbow Road

Rainbow Road

Bydd y dyluniad amryliw yn rhychwantu ffordd newydd sy'n cael ei gosod fel rhan o gynllun gan Gyngor Abertawe i adfywio'r stryd.

Mae un wedi'i gosod eisoes - bydd dwy arall yn dilyn.

Bydd y ffordd unffordd 20mya - a fydd yn hygyrch i draffig busnes yn unig (a hynny dim ond o 7am tan 11am bob dydd) - hefyd yn cynnwys tair croesfan anffurfiol i gerddwyr gydag ymylon ffyrdd cyffyrddol i'r rheini ag anabledd.

Meddai Elliott King, hyrwyddwr LGBTQ+ y cyngor,  "Mae Abertawe yn ddinas groesawgar ac amrywiol. Bydd Wind Street yn ychwanegu ymhellach at ei hapêl - a bydd ein ffordd â'i henfysau lliwgar yn cryfhau'r neges hon.

"Byddant yn adlewyrchu'r negeseuon cadarnhaol sy'n gysylltiedig â'r dyluniadau a ddefnyddir gan y rheini sy'n dathlu bywyd LGBTQ+"

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart: "Mae busnesau'n awyddus i'r Wind Street 'newydd' hon agor; rydym eisoes wedi bod yn gweithio gyda nhw i'w greu'n gyrchfan croesawgar yn ystod y dydd gyda bwytai'n agor allan ar y stryd i deuluoedd ac ymwelwyr.

"Mae'r prif waith ar y trywydd iawn i gael ei orffen i bob diben erbyn diwedd y mis hwn(sylwer: mis Tachwedd) fel y dylai tymor y Nadolig fod yn un da i fusnesau Wind Street.

"Bydd ein celfweithiau lliwiau'r enfys yn dathlu ac yn hyrwyddo amrywiaeth Abertawe. Bydd Wind Street yn amgylchedd cynhwysol; rydym am i bawb fod yn rhydd i'w fwynhau gyda ffrindiau a theulu heb ofni bygythiadau, anoddedfgarwch neu gasineb."

Bydd Wind Street yn chwarae rôl allweddol yn stori adfywio ehangach canol y ddinas sy'n werth £1bn.

Dechreuodd y gwaith £3m i wella'r stryd yn gynharach eleni ar ôl i fusnesau a phreswylwyr fynegi eu barn ar ddyfodol yr ardal. Mae'r cyngor yn parhau i ymgysylltu â grwpiau, masnachwyr a phreswylwyr lleol.

Meddai Aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, "Y nod yn y pen draw yw cyrchfan croesawgar, diogel a phleserus y gall yr holl deulu ei fwynhau drwy'r dydd."

Rhagor: www.abertawe.gov.uk/windstreet

Llun:Enfys ffordd gyntaf Wind Street.

 

 

 

Close Dewis iaith