Chwilio'r wefan
English

Seven Drunken Nights

The Story Of The Dubliners.

Seven Drunken Nights
10 Hyd 2020
7.30PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ

Tocynnau: £26.50
Buy Tickets Button Welsh
Yn dilyn ei thaith gyntaf a oedd yn llwyddiant ysgubol lle gwerthwyd pob tocyn, mae sioe'r Seven Drunken Nights - The Story of The Dubliners, yn dychwelyd i theatrau yn 2020 gyda chynhyrchiad mwy fyth.

Yn syth o'r West End, mae'r sioe'n dod â cherddoriaeth un o fandiau mwyaf poblogaidd Iwerddon, The Dubliners, yn fyw. Mae'r sioe'n adrodd hanes gyrfa'r band sy'n ymestyn dros 50 mlynedd ac yn dwyn i gof ysbryd Ronnie Drew, Luke Kelly, Barney McKenna, Jim McCann, Ciaran Bourke a John Sheahan. Mae'r cast hynod dalentog hwn o gerddorion a chantorion yn dod â cherddoriaeth y grŵp eiconig hwn yn fyw.

Perfformiad sy'n siŵr o'ch cael chi'n canu ac yn curo dwylo i guriad clasuron megis The Wild Rover, The Black Velvet Band, The Irish Rover, Molly Malone, Finnegan's Wake, McAlpines Fusileers, Raglan Road ac wrth gwrs, The Seven Drunken Nights.

Mae'r dathliad cerddorol hwn o gerddoriaeth The Dubliners, yn ddathliad o gerddoriaeth Wyddelig ei hun ac yn siŵr o fod yn noson wych o gerddoriaeth, hiwmor a hwyl.

Ffôn: 01792 475715
Wedi'i bweru gan GOSS iCM