Chwilio'r wefan
English

Canwyr yn paratoi ar gyfer Gorymdaith y Nadolig

Bydd canwyr y Nadolig yn ychwanegu rhywbeth arbennig at Orymdaith y Nadolig yng nghanol y ddinas.

Nataya

Byddant yn diddanu ymwelwyr â chanol y ddinas mewn mannau perfformio yn Sgwâr y Castell a Chylch Ffordd y Brenin wrth iddynt aros i'r orymdaith ddechrau nos Sul, 17 Tachwedd.

Bydd y perfformwyr yn cynnwys: Rock Choir, Côr 'Tunes for Tŷ Olwen' y DVLA, Dancerama, Jermin Productions, Nataya a chanwyr carolau mewn gwisgoedd Fictoraidd.

Derbyniodd bob un ohonynt wahoddiad gan Gyngor Abertawe i ddiddanu'r bobl sy'n edrych ymlaen at wylio'r orymdaith sy'n dechrau am 5pm.

Bydd Gorymdaith y Nadolig 2019 Abertawe'n teithio ar hyd Stryd y Gwynt a'r Stryd Fawr ac yna ar hyd Stryd y Berllan ac ar hyd Ffordd y Brenin.

Llun: Nataya

Wedi'i bweru gan GOSS iCM