Toglo gwelededd dewislen symudol

Siopwch yn Lleol, Siopwch yn y Mwmbwls

Yn y Mwmbwls gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o siopau a busnesau annibynnol.

Mae'r gwasanaethau'n amrywio o wasanaethau hanfodol fel siopau trin gwallt, siopau llysiau, siopau bara a fferyllfa, i orielau celf, siopau coffi, bariau jin, bwtigau ac oriel llwyau caru Cymreig - yn wir, mae gan y Mwmbwls lawer i'w gynnig. 

Mae llawer o gabanau i'w cael hefyd ar hyd y promenâd sy'n gwerthu bwyd môr, crêpes a mwy. 

Ar ail ddydd Sadwrn bob mis, cynhelir marchnad stryd yn y Mwmbwls lle gwerthir bwyd a chynnyrch lleol, rhoddion hynod a llawer mwy. Mae'r farchnad ar agor rhwng 9.00am ac 1.00pm ym maes parcio The Dairy.

Gellir dod o hyd i Lyfrgell Ystumllwynarth ar Dunns Lane.

Siopa a bwyta'n lleol yw un o'r pethau y gall pobl ei wneud i gefnogi eu heconomi leol a sicrhau bod yr ardal yn elwa o swyddi ac arian. Er enghraifft, petai pawb yn y Mwmbwls yn gwario £5 yn ychwanegol bob wythnos yn eu busnesau annibynnol lleol, byddai hyn yn creu dros £1 filiwn* y flwyddyn ar gyfer yr economi leol.

Rhestr o fusnesau yn y Mwmbwls (Excel doc) [25KB]
Y Mwmbwls - cynllun 1 (Pier y Mwmbwls) (PDF) [1MB]
Y Mwmbwls - cynllun 2 (Mumbles Road, Verdi’s – The Mermaid) (PDF) [1MB]
Y Mwmbwls - cynllun 3 (Mumbles Road, Gwesty Carlton – Cornwall Place) (PDF) [2MB]
Y Mwmbwls - cynllun 4 (Mumbles Road Co-op – Newton Road M&S) (PDF) [2MB]
Y Mwmbwls - cynllun 5 (Newton Road, o Ganolfan Ostreme i fyny) (PDF) [2MB]

Gwybodaeth am fusnesau: Mae'r wybodaeth sydd yn y dogfennau uchod yn seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd yn haf 2021 (gan gynnwys newidiadau dilynol rydym wedi'ch hysbysu yn eu cylch). Os yw'r wybodaeth sy'n ymwneud â busnes neu sefydliad bellach wedi dyddio, rhowch wybod i ni.

 

totallylocally.org (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith