By The Waters Of Liverpool
Taith gyntaf By The Waters Of Liverpool gan Helen Forrester ar draws y DU.

Tocynnau: £24.00 - £30.00
"Stori fawr ysgubol yn llawn emosiwn go iawn" The Stage
Addaswyd gan Rob Fennah/Cyfarwyddir gan Gareth Tudor Price.
Yn cynnwys Eric Potts, Mark Moraghan a Maria Lovelady.
Addasiad o'r llyfr By The Waters Of Liverpoola werthodd filiynau o gopïau yw'r ddrama gyfnod sydd wedi'i gosod yn y 1930au. Mae'r stori'n dechrau ym 1935. Mae Helen Forrester yn un ar bymtheg oed ac yn brwydro'n chwerw â'i rhieni am yr hawl i'w haddysgu ei hun a mynd allan i weithio. Yn ystod y Dirwasgiad Mawr, collodd tad Helen ei ffortiwn pan chwalodd y farchnad stoc ac yn sydyn roedd y teulu'n wynebu tlodi mawr. Gan adael y nanis, y gweision a'r bywyd dosbarth canol cyfforddus yn ne-orllewin Lloegr, dewisodd y teulu Forrester fynd i Lerpwl fel man i ddechrau o'r newydd. Roedd sioc fawr yn eu hwynebau. Tynnir Helen o'r ysgol i ofalu am ei brodyr a'i chwiorydd iau, wrth i'w rhieni ymdrechu i ailadeiladu eu bywydau a oedd bellach ar chwâl. Caiff Helen ei thrin fel caethwas di-dâl ac mae'n ysu am gael dianc. Erbyn 1939, a hithau'n ugain oed bellach a Phrydain ar fin mynd i'r rhyfel, ni chusanwyd hi gan ddyn erioed. Ond daw tro ar fyd i Helen pan fydd hi'n cwrdd â morwr cryf a thal ac yn syrthio mewn cariad ag ef.
Mae By The Waters Of Liverpoolhefyd yn cynnwys ôl-fflachiau i ddwy gyfrol gyntaf hunangofiant Helen, Twopence To Cross The Mersey a Liverpool Miss, felly bydd newydd-ddyfodiaid i stori Helen yn cael darlun cyflawn o'i bywyd".
Yn serrenu Mark Moraghan (Holby City, Coronation Street a Brookside) fel John Forrester (tad Helen). Eric Potts (Coronation Street, Doctor Who, Peak Practice, Heartbeat, The Royal a Last of the Summer Wine) fel 'Mr Ellis' (pennaeth Helen). Lynn Francis fel 'Deaconess', Danny O'Brien fel 'Harry O'Dwyer', Chloe McDonald fel 'Fiona' (chwaer helen), a Roy Carruthers fel 'The Detective'.
Rob Fennah ~ Dramodydd a ffrind i Helen Forrester.
Awdurdodwyd yn llawn gan ystad Helen Forrester.