Peter Pan
Yn dilyn llwyddiant Cinderella y llynedd, pantomeim cyffrous Theatr y Grand Abertawe eleni yw antur ryfeddol Peter Pan.

Tocynnau: £13.00 - £29.00 Mae rhai consesiynau ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
Perfformiadau Disgrifiad Clywedol Iau 2 Ion 2.00pm
Perfformiadau Hamddenol Mer 8 Ion 7.00pm
Perfformiadau wedi'u Dehongli yn Iaith Arwyddion Prydain Mer 8 Ion 2.00pm
Ewch ar daith hudolus i Neverland y Nadolig hwn wrth wylio'r antur hon i'r teulu lle bydd y Jolly Roger yn teithio'r môr mawr peryglus ac yn gollwng yr angor ym Mae Abertawe am dymor yr ŵyl ni allwch ei golli. Gyda Tristan Gemmill o Coronation Street yn chwarae rhan Captain Hook, ffefryn Abertawe Kevin Johns yn chwarae rhan Mrs Smee, seren Britain's Got Talent, Ricky K yn chwarae rhan Starkey ac Aoife Kenny yn chwarae rhan Tiger Lily.
Ymunwch â'n harwr enwog wrth iddo fynd â phlant y teulu Darling ar antur na fyddant byth yn ei hanghofio gyda môr-ladron drwg, bechgyn coll, crocodeil llwglyd iawn a'r dyn mwyaf cas yn Neverland, Captain Hook.
Gyda hedfan syfrdanol ac effeithiau arbennig anhygoel, cyfleoedd i chwerthin llond eich bol, llong llawn hud a lledrith tylwyth teg a digon o hwyl yr ŵyl i'r teulu cyfan, bachwch eich tocynnau heddiw!