Chwilio'r wefan
English

Sixties Gold - 2019

Bydd Sixties Gold 2019 yn dychwelyd gyda rhestr hyn yn oed yn well o artistiaid sydd, gyda'i gilydd, wedi cynhyrchu mwy na 50 o ganeuon a gyrhaeddodd frig siartiau'r DU.

60s Gold
16 Hyd 2019
7.30PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ Oriau Agor y Swyddfa Docynnau: Llun – Sad, 12.00 Canol dydd – 8.00pm Dyddiau sioe Llun – Sad, 12.00 Canol dydd – 6.00pm Dyddiau heb sioe

Tocynnau: £37.00
Buy Tickets Button Welsh

Herman's Hermits - Taith i nodi 55 o flynyddoedd
The Merseybeats
The Marmalade
Wayne Fontana And The Mindbenders
Love Affair - Steve Ellis

Herman's Hermits. Un o fandiau mwyaf llwyddiannus y 60au. Ers dechrau ym Manceinion ym 1964, mae'r band wedi cynhyrchu 23 o recordiau sengl a 10 albwm a ddringodd yn uchel yn y siartiau, ynghyd ag ymddangos mewn 3 ffilm fawr a gwerthu dros 75 o filiynau o recordiau hyd yn hyn. Mae eleni'n nodi taith y band i ddathlu 55 o flynyddoedd.

Mae'r caneuon mwyaf poblogaidd yn cynnwys: There's A kind Of Hush, Silhouettes, Can't You Hear My Heart Beat, Wonderful World, A Must to Avoid a llawer mwy.

The Merseybeats. Enghraifft arall o lwyddiant blynyddoedd ffyniannus Merseybeat yn Lerpwl. Mae'r recordiau cofiadwy'n cynnwys: Sorrow, I Think of You, a Wishin' a Hopin'.

The Marmalade oedd sêr cerddoriaeth yr Alban ym 1968, gan ychwanegu dimensiwn arall i sain caneuon poblogaidd arferol, gyda harmonïau gwych. Mae caneuon poblogaidd y grŵp yn cynnwys: Lovin' Things, Reflections of My Life, Falling Apart at The Seams, Cousin Norman ynghyd â'r gân hynod boblogaidd a gyfansoddwyd gan Lennon a McCartney, Ob-la-Di Ob-la-Da.

Wayne Fontana & The Mindbenders. Dyma un arall o'r bandiau eiconig o Fanceinion, sydd hefyd ar daith i ddathlu 55 o flynyddoedd. Dilynodd Wayne ei gân lwyddiannus gyntaf ym 1964, Um, Um, Um, Um, Um, Um, drwy recordio The Game Of Love, Pamela Pamela a Groovy Kind Of Love.

Steve Ellis, prif ganwr gwreiddiol a sefydlydd Love Affair a gynhyrchodd 5 record sengl a gyrhaeddodd 20 uchaf y siartiau, gan gynnwys y gân a aeth i'r brig, Everlasting Love.

Dewch i ail-fyw profiad hudolus y 1960au gyda pump o artistiaid mwyaf llwyddiannus y degawd!

Ffôn: 01792 475715
Wedi'i bweru gan GOSS iCM