Chwilio'r wefan
English

Supreme Queen

'The Days of Their Lives' - Teyrnged i'r Band Enwog.

Supreme Queen
14 Hyd 2019
7.30PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ Oriau Agor y Swyddfa Docynnau: Llun – Sad, 12.00 Canol dydd – 8.00pm Dyddiau sioe Llun – Sad, 12.00 Canol dydd – 6.00pm Dyddiau heb sioe

Tocynnau: £21.00 - £25.00
Buy Tickets Button Welsh

Fel un o fandiau teyrnged mwyaf adnabyddus y byd, mae Supreme Queen yn parhau i'n syfrdanu gyda'i deyrnged i oes aur un o fandiau roc gorau'r blaned erioed.
Ers ffurfio'r band yn y 1990au, mae Supreme Queen wedi perfformio i gannoedd ar filoedd o gefnogwyr Queen ar draws y byd, gan gynnwys mewn digwyddiadau mawr megis Cynhadledd Queen Rhyngwladol St Tropez, lle gwnaethant berfformio i 10,000 o bobl.
Mae tebygrwydd lleisiol a gweledol anhygoel Scott Maley, prif berfformiwr y band o gerddorion syfrdanol hwn, i Freddie Mercury wedi helpu Supreme Queen i ddod yn un o fandiau mwyaf eu parch a gorau eu cyfnod yn y byd.
Gan ddilyn ethos y band gwreiddiol, mae Supreme Queen bob amser wedi ymdrechu i efelychu'r profiad gwreiddiol o weld Queen yn fyw.
Fel rhan o gwmni Brian Shaw Concerts/Elite International bellach, sydd wedi cyflwyno digwyddiadau arena penigamp megis The Elvis World Tour, rydym yn rhan o gyfnod newydd wrth wylio'r sioe fendigedig hon. Yn y sioe gerddorol wych hon, mae'r perfformiad newydd yn elwa o werthoedd cynhyrchu syfrdanol, yn ogystal ag effeithiau sain a goleuo a ddyluniwyd i gludo'r gynulleidfa i oes aur ei harwyr.
Yn syml, dyma sioe lwyfan a ddyluniwyd i roi noson fythgofiadwy i filiynau o gefnogwyr Queen ar draws y byd.

Ffôn: 01792 475715
Wedi'i bweru gan GOSS iCM