Chwilio'r wefan
English

Taking Care Of Elvis - The King Is Back

Ben Portsmouth - Artist Teyrnged Gorau'r Byd i Elvis.

The King Is Back
5 Medi 2019
7.30PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ Oriau Agor y Swyddfa Docynnau: Llun – Sad, 12.00 Canol dydd – 8.00pm Dyddiau sioe Llun – Sad, 12.00 Canol dydd – 6.00pm Dyddiau heb sioe

Tocynnau: £25.00 & £27.00
Buy Tickets Button Welsh

Roedd Ben, sy'n gerddor, yn ganwr ac yn gyfansoddwr amryddawn, yn dwlu ar gerddoriaeth Elvis ers pan oedd yn ifanc iawn. Roedd ei dad yn edmygwr brwd o gerddoriaeth Elvis a chlywodd Ben ei ganeuon wrth iddo dyfu i fyny.
Mae'n edrych fel Elvis, yn canu fel Elvis ac mae ganddo garisma ar y llwyfan sy'n gwneud i gynulleidfaoedd gredu eu bod yn gwylio'r Brenin ei hun.
Ym mis Awst 2012, cyflawnodd Ben gamp hanesyddol pan enillodd y Gystadleuaeth Artist Teyrnged Gorau Oll i Elvis a gynhaliwyd ym Memphis, lle coronwyd Ben fel "Artist Teyrnged Gorau'r Byd i Elvis", yr artist cyntaf o'r tu allan i'r UDA sydd erioed wedi ennill y teitl nodedig hwn.
Ac yntau wedi ennill bri rhyngwladol fel un o berfformwyr teyrnged gorau'r byd i Elvis heddiw, bydd Ben Portsmouth yn dod â'i arddull a'i garisma unigryw ei hun i'r sioe hon, gan ddangos i gynulleidfaoedd pam mae'n cael ei ystyried fel y gorau yn y busnes.

Ffôn: 01792 475715
Wedi'i bweru gan GOSS iCM