Chwilio'r wefan
English

The Rolling Stones Story

Mae The Rolling Stones Story yn addo mynd â chi ar daith fythgofiadwy i'r gorffennol, ac amser Jumpin' Jack Flash! Dim ond roc a rôl yw e, ond rydym yn hoff ohono!

The Rolling Stones Story
6 Medi 2019
7.30PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ Oriau Agor y Swyddfa Docynnau: Llun – Sad, 12.00 Canol dydd – 8.00pm Dyddiau sioe Llun – Sad, 12.00 Canol dydd – 6.00pm Dyddiau heb sioe

Tocynnau: £24.50
Welsh

Mae The Rolling Stones Story yn addo mynd â chi ar daith fythgofiadwy i'r gorffennol, ac amser Jumpin' Jack Flash! Dim ond roc a rôl yw e, ond rydym yn hoff ohono!

Mae The Rolling Stones wedi dominyddu cerddoriaeth roc a rôl ers y 1960au ac roeddent ar flaen y gad o ran y bandiau Prydeinig a oresgynnodd yr Unol Daleithiau ym 1964. Roeddent ymysg y mwyaf poblogaidd ac yn gyfartal â The Beatles, ac ystyriwyd y 60au hwyr a'r 70au cynnar fel yr Oes Aur gan lawer.

Mae'r band yn enwog am eu sioeau byw ac mae etifeddiaeth gerddorol The Stones ymhlith y goreuon. Maent wedi recordio rhai o'r caneuon roc a rôl mwyaf syfrdanol erioed - Satisfaction, Jumpin' Jack Flash, Not Fade Away, Honky Tonk Woman, Brown Sugar, Start Me Up... i enwi rhai ohonynt yn unig.

Gallwch nawr ail-fyw'r holl glasuron hyn yn The Rolling Stones Story, cyngerdd llawn egni sy'n dathlu cerddoriaeth band roc a rôl gorau'r byd. Gadewch i ni dreulio'r noson gyda'n gilydd yng nghwmni Mick a'r bois a chewch fwynhau profiad sy'n anhygoel o agos at y band gwreiddiol, gyda chynhyrchiad gwych, y cerddorion gorau a Paul Ashworth, sy'n dynwared y dyn ei hun, Mick Jagger, yn well nag unrhyw un arall yn y byd.

Ffôn: 01792 475715
Wedi'i bweru gan GOSS iCM