Chwilio'r wefan
English

Tommy - The Album, LIVE!

Mae The Goldhawks yn dathlu hanner canmlwyddiant ers rhyddhau opera roc arloesol The Who, 'Tommy', gyda chynhyrchiad newydd sbon.

Tommy The Album
23 Hyd 2019
7.30PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ

Tocynnau: £24.00
Buy Tickets Button Welsh    EXTRAS Logo Small

Yn dilyn taith lwyddiannus y band roc byd-enwog The Goldhawks o'r albwm Quadrophenia, maent yn dychwelyd i berfformio Tommy fel band 9 aelod gyda thafluniad ac effeithiau gwych sy'n efelychu sain arbennig The Who.

Tommy yw pedwerydd albwm stiwdio The Who, albwm dwbl a ryddhawyd am y tro cyntaf ym mis Mai 1969. Prif gymeriad yr albwm arloesol yw Tommy. Ganwyd ef yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae'n mynd yn ddall, yn fud ac yn fyddar ar ôl iddo weld ei rieni'n llofruddio rhywun mewn drych. Yna, mae'n dod yn bencampwr pinbel, gan gyrraedd cyflwr o ras, adennill ei synhwyrau a dechrau ei grefydd ei hun. Yn y diwedd, mae'n cael ei adael gan ei ddisgyblion rywle yn y dyfodol pell ac yn canfod ei hun mor unig ag yr oedd ar y dechrau.

I gau'r sioe, paratowch ar gyfer caneuon llwyddiannus The Who nad ydych chi am eu colli.

Ffôn: 01792 475715
Wedi'i bweru gan GOSS iCM