Chwilio'r wefan
English

What's Love Got To Do With It?

Mae'r sioe lawen newydd yn dathlu cerddoriaeth yr artist ardderchog, Tina Turner.

Tina
4 Rhag 2019
7.30PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ Oriau Agor y Swyddfa Docynnau: Llun – Sad, 12.00 Canol dydd – 8.00pm Dyddiau sioe Llun – Sad, 12.00 Canol dydd – 6.00pm Dyddiau heb sioe

Tocynnau: £22.00 - £26.00 Mae consesiynau dethol ar gael
Buy Tickets Button Welsh
Y sioe, a gyflwynir gan y cynhyrchwyr arobryn a grëodd y sioe hynod lwyddiannus, Whitney - Queen Of The Night, What's Love To Do With It? yw'r sioe deyrnged orau ar gyfer un o artistiaid mwyaf poblogaidd ein cenhedlaeth.

Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl noson yn llawn egni, a fydd yn llawn roc a rôl yn y sioe theatr deithiol newydd sbon hon, gan gynnwys caneuon gorau Tina gan y gantores arbennig, Elesha Paul Moses (Whitney - Queen Of The Night, The Voice, X Factor) â chefnogaeth band deg aelod.

Gan ei bod wedi cael gyrfa anhygoel dros 50 mlynedd, gall y gynulleidfa edrych ymlaen at glywed trefniadau cerddorol hyfryd o ganeuon mwyaf poblogaidd Tina, gan gynnwys; Private Dancer, What's Love Got To Do With It?, Proud Mary, River Deep, Nutbush City Limits, Simply The Best a llawer mwy.

Mae'r profiad cerddorol hwn, ni ddylid ei golli, yn ddathliad syfrdanol o un o gantoresau gorau'n hamser.

Sylwer bod hwn yn gynhyrchiad teyrnged ac nid yw Tina Turner Estate yn ei ardystio ac nid yw'n gysylltiedig ag ef.

Ffôn: 01792 475715
Wedi'i bweru gan GOSS iCM