Dysgu Gydol Oes - Dewch arlein Abertawe: Dysgu Fy Ffordd I
Detholiad o gyrsiau ar-lein byr am ddim i ddechreuwyr - Nathalie Salomon, Andrew Hulling.
Mae'r cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim hyn yn addas ar gyfer dechreuwyr sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio eu cyfrifiadur neu dabled gyda ffocws ar feysydd diddordeb penodol. Bydd dosbarthiadau'n dechrau gyda TG sylfaenol, diogelwch Rhyngrwyd a throsolwg o Microsoft Office. Bydd opsiynau ar gael i ganolbwyntio ar eich diddordeb penodol wrth ichi symud ymlaen.
Gan ddefnyddio'r ystod 'Dysgu Fy Ffordd I' o gyrsiau ar-lein AM DDIM a chefnogaeth ein tiwtoriaid TG gallwch ddysgu:
- Sut i ddefnyddio cyfrifiadur a chyrchu'r Rhyngrwyd;
- Ffyrdd o gadw'ch hun yn ddiogel ar-lein;
- Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer rheoli eich arian a bancio ar-lein;
- Sut i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus fel y GIG a gwasanaethau'r Cyngor lleol;
- Awgrymiadau i wella'ch lles ar-lein, gan ddatblygu arferion iach ar-lein;
- Sut i ddefnyddio pecynnau Microsoft Office fel Word ac Excel;
- Awgrymiadau ac adnoddau ymarferol ar gyfer dod o hyd i'ch swydd ddelfrydol;
- Cwblhau eich cais Credyd Cynhwysol.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Sesiynau tiwtorial byw neu wedi'u recordio ymlaen llaw;
- Taflenni a thaflenni canllaw;
- Mynediad at gefnogaeth tiwtor naill ai trwy sesiynau byw neu drwy e-bost a ffrydiau Google Classroom.
Dyddiad dechrau:
Dydd Gwener 30 Ebrill 2021, 10.00am - 12.00pm.
Dydd Gwener 30 Ebrill 2021, 1.00pm - 3.00pm.
Dydd Gwener 30 Ebrill 2021, 11.00am - 1.00pm.
Cofrestrwch ar un cwrs yn unig os gwelwch yn dda.
Bydd y cwrs 5 wythnos ar-lein hwn yn cynnwys canllawiau sesiwn y gellir eu hargraffu, taflenni enghreifftiol, aseiniadau a dolenni i wefannau defnyddiol.
Darperir gwersi trwy Google Classrooms. Darperir tiwtorial fideo i helpu myfyrwyr i gael mynediad i Google Classrooms.
Nodwch: bydd angen cyfrif Google ar fyfyrwyr i gael mynediad at ein hadnoddau ystafell ddosbarth. I gael help i sefydlu cyfrif Google a chyrchu ein dysgu ar-lein, gallwch ein ffonio ar 01792 637101.