Mae gwasanaethau Cyngor Abertawe sy'n cael eu hatal o 18 Mawrth i helpu'r gymuned frwydro yn erbyn coronafeirws yn cynnwys: amgueddfeydd, orielau cyfleusterau chwaraeon a hamdden awyr agored, theatrau, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol. Manylion: www.abertawe.gov.uk/CyngorarCoronafeirws. Diolch am eich cefnogaeth.

Theatr Penyrheol
Mae Theatr Penyrheol yng nghalon Gorseinon ac yn rhan o Ganolfan Hamdden Penyrheol sydd y drws nesaf i Ysgol Gyfun Penyrheol.
Mae Theatr Penyrheol yn theatr gymunedol sy'n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a sioeau bob blwyddyn. Mae'r rhain yn cynnwys sioeau ffasiwn, achlysuron preifat, dramâu, sioeau talent a sioeau megis High School Musical, Annie a Cinderella yn ogystal â'r pantomeim a'r Ŵyl Ddawns flynyddol.
Yn ogystal â'r prif awditoriwm a'r llwyfan, ceir ystafelloedd gwyrdd a stiwdio ddrama/dawns yn Theatr Penyrheol.
Digwyddiadau yn Theatr Penyrheol
Gwybodaeth am ba ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd i ddod yn Theatr Penyrheol.
Y Swyddfa Docynnau
Os mai'r theatr sy'n gwerthu tocynnau ar gyfer digwyddiad, gellir eu harchebu dros y ffôn, yn bersonol neu ar-lein.
Cynllun Seddi Theatr Penyrheol
Penderfynwch lle hoffech eistedd cyn archebu'ch tocynnau neu dewch o hyd i'ch sedd cyn cyrraedd y theatr.
Llogi'r Lleoliad
Gellir llogi Theatr Penyrheol yn breifat ac ar gyfer digwyddiadau corfforaethol.
Gwybodaeth am y Theatr
Nifer y lleoedd, parcio, cyfleusterau bar, staffio a mynediad i'r anabl
Cysylltu â Theatr Penyrheol
Ffoniwch neu ysgrifennwch atom
E-bost: theatr.penyrheol@abertawe.gov.uk
Ffôn: 01792 897039
Manylion llawn Cysylltu â Theatr Penyrheol