Coeden Nadolig yn helpu i dynnu sylw at gyfle gofal plant
Mae coeden Nadolig yng nghanol dinas Abertawe yn helpu i dynnu sylw at gynnig sy'n rhoi cyfle i rieni gael hyd at 30 awr o ofal plant y flwyddyn, a hynny wedi'i ariannu.
Mae'r Cynnig Gofal Plant yng Nghymru yn rhoi cyfle i rieni gael cyfuniad o ofal plant ac addysg gynnar i blant tair a phedair oed sy'n byw yn Abertawe.
Gall teuluoedd fod yn gymwys ar gyfer gofal plant hyblyg a ariennir yn ystod y tymor ysgol ac yn ystod y gwyliau.
Mae ceisiadau ar agor i deuluoedd cymwys sy'n byw yn Abertawe.
I gael rhagor o wybodaeth, ac i wneud cais ar-lein, ewch i www.abertawe.gov.uk/cynniggofalplant neu ffoniwch Dîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Abertawe ar 01792 517222.
Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn noddi'r sbriwsen Norwyaidd 40tr o uchder sydd y tu allan i westy The Dragon.
Llun: Plant a staff o feithrinfa City Day Abertawe gyda Finley, arth Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Abertawe, y tu allan i westy The Dragon wrth ymyl y goeden Nadolig a noddir gan y gwasanaeth.